Breinlen
Gwedd
Math | intellectual property, cyhoeddiad |
---|---|
Yn cynnwys | patent application |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Set o hawliau unigryw yw breinlen neu hefyd patent, a roddir gan wladwriaeth am gyfnod o amser i ddyfeisiwr pan mae'n cyflwyno disgrifiad o ddyfais. Dyfais yw'r ateb i broblem dechnegol a gall fod mewn ffurf cynnyrch masnachol neu broses.[1] Mae'n ffurf o eiddo neu gynnyrch deallusol.
Mae gan wledydd y byd gytundebau ynglŷn â phatentau a gwarchod hawliau'r dyfeisiwr. Fel arfer mae'n ofynol i'r ffurflen gais i gael patent ddisgrifio dyfais:
- newydd
- dyfeisgar
- defnyddiol
- y gellir ei chymwyso ar gyfer diwydiant
Ni ellir rhoi patent am syniad na 'methodau' busnes. Mae fel arfer, yn gwahardd unrhyw berson arall rhag gwneud, defnyddio, gwerthu, cynnig gwerthu neu fewnforio'r ddyfais.