Yūko Tsushima

Oddi ar Wicipedia
Yūko Tsushima
Ganwyd30 Mawrth 1947 Edit this on Wikidata
Mitaka Edit this on Wikidata
Bu farw18 Chwefror 2016 Edit this on Wikidata
Tokyo Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Japan Japan
Alma mater
  • Prifysgol Menywod Shirayuri
  • Prifysgol Meiji Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, nofelydd, awdur storiau byrion, beirniad llenyddol, rhyddieithwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Sefydliad Cenedlaethol Ieithoedd a Gwareiddiadau Dwyreiniol Edit this on Wikidata
TadOsamu Dazai Edit this on Wikidata
MamMichiko Tsushima Edit this on Wikidata
PlantNen Ishihara Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Toshimi Tamura, Gwobr Lenyddiaeth Izumi Kaga, Gwobr Llenyddiaeth Benywod, Gwobr Newydd Llenyddiaeth Dinesig Noma, Gwobr Kawabata, Gwobr Yomiuri, Gwobr Llenyddiaeth Hirabayashi Tomoko, Gwobr Sei Itō, Gwobr Tanizaki, Gwobr Lenyddiaeth Noma, Osaragi Jirō Award, Gwobr Lenyddiaeth Orbital Murasaki, Art Encouragement Prizes, Mainichi art award Edit this on Wikidata
Yn yr enw Japaneaidd hwn, Tsushima yw'r enw teuluol.

Awdur toreithiog o Japan oedd Yūko Tsushima (津島 佑子 Tsushima Yūko; 30 Mawrth 1947 - 18 Chwefror 2016) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel nofelydd, awdur storiau byrion, beirniad llenyddol a sgwennwr rhyddiaith.[1] Llysenw-awdur oedd 'Yūko Tsushima'.[2]

Fe'i ganed yn Mitaka, Tokyo ac yno hefyd y bu farw.

Roedd ei thad, Osamu Dazai, yn nofelydd enwog, a gyflawnodd hunanladdiad pan oedd Yūko Tsushima yn flwydd oed. Yn ddiweddarach, defnyddiodd Yūko Tsushima hyn wrth ysgrifennu ei stori fer "Teyrnas y Dŵr."[3] [4]

Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Menywod Shirayuri a Phrifysgol Meiji.[5][6][7][8]

Wrth fynychu Prifysgol Merched Shirayuri cyhoeddodd ei ffuglen gyntaf. Yn 24 oed cyhoeddodd ei chasgliad cyntaf o straeon, "Carnifal" (Shaniku-sai).[9]

Arddull[golygu | golygu cod]

Er na ddefnyddiodd y gair erioed, disgrifir ei harddull fel un "ffemenistaidd".[10][11][12] Mae'n ymchwilio yn ei gwaith yn ddwfn i bobl yr ymylon, yn enwedig merched, sy'n brwydro er mwyn rheoli eu bywydau eu hunain, a hynny yn erbyn y teulu a'r gymuned.[11][13] Nododd i Tennessee Williams fod yn ddylanwad mawr ei ei gwaith.[14]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

Enillodd Tsushima lawer o brif wobrau llenyddol Japan yn ystod ei gyrfa, gan gynnwys Gwobr Llenyddiaeth Izumi Kyōka, Gwobr Noma am Wyneb Newydd mewn Llenyddiaetyh, Gwobr Lenyddol Noma, Gwobr Yomiuri, a Gwobr Tanizaki. Galwodd y New York Times Tsushima yn "un o awduron pwysicaf ei chenhedlaeth." Mae ei gwaith wedi'i gyfieithu i dros ddwsin o ieithoedd.[15] Yn wahanol i'w chyfoeswyr a ysgrifennai'n aml am yr uned deuluol, canolbwyntiodd Yūko Tsushima am fenywod oedd wedi eu hesgymuno o'r gymdeithas gan y gymdeithas a'r teulu.[16]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Tsushima, Yūko". WorldCat Identities. Cyrchwyd 30 Mai 2010.
  2. Kometani, Foumiko (24 Gorffennaf 1988). "'SILENCE IS ESSENTIAL'". The New York Times. Cyrchwyd 18 Gorffennaf 2018.
  3. Kosaka, Kris (26 Mai 2018). "'Of Dogs and Walls': A concentrated hit of Yuko Tsushima". The Japan Times. Cyrchwyd 18 Mehefin 2018.
  4. Galwedigaeth: http://ndbooks.com/author/yuko-tsushima. https://cs.isabart.org/person/145705. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2021. dynodwr abART (person): 145705.
  5. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb11995618n. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  6. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb11995618n. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. http://www.nytimes.com/1988/07/24/books/silence-is-essential.html. http://www.nytimes.com/books/97/08/24/nnp/9363.html.
  7. Dyddiad geni: Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 14 Hydref 2015. "Yûko Tsushima". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Yūko Tsushima". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. https://cs.isabart.org/person/145705. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2021. dynodwr abART (person): 145705.
  8. Dyddiad marw: http://www.japantimes.co.jp/news/2016/02/19/national/lung-cancer-claims-author-yuko-tsushima-daughter-osamu-dazai-68/. dyddiad cyrchiad: 19 Chwefror 2016. "Yûko Tsushima". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Yūko Tsushima". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. https://cs.isabart.org/person/145705. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2021. dynodwr abART (person): 145705.
  9. "訃報:作家の津島佑子さん死去68歳 太宰治の次女 - 毎日新聞". 毎日新聞.
  10. Hartley, Barbara (3 Mehefin 2016). "Chapter 6: Feminism and Japanese Literature". In Hutchinson, Rachael; Morton, Leith Douglas (gol.). Routledge Handbook of Modern Japanese Literature. tt. 82–94.
  11. 11.0 11.1 Kosaka, Kris (16 Rhagfyr 2017). "'Child of Fortune': Yuko Tsushima's prize-winning and feminist novel on womanhood". The Japan Times. Cyrchwyd 18 Mehefin 2018.
  12. Kosaka, Kris (August 8, 2015). "'The Shooting Gallery' reveals Yuko Tsushima's existential feminism". The Japan Times. Cyrchwyd 18 Mehefin 2018.
  13. Self, John (14 Ebrill 2018). "Territory of Light by Yuko Tsushima review – Bracing, often breathtaking". The Irish Times. Cyrchwyd 18 Mehefin 2018.
  14. Tsushima, Yuko (22 Ionawr 1989). "Yuko Tsushima: `I Am Not Pessimistic About The Future Of Women`". Chicago Tribune. Cyfieithwyd gan Kuriki, Chieki. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-08-25. Cyrchwyd 18 Mehefin 2018.
  15. Kosaka, Kris (31 Mawrth 2018). "'Territory of Light' is a timely translation that sheds light on Japan's marginalized". The Japan Times. Cyrchwyd 18 Mehefin 2018.
  16. Nodyn:Cite article