Wyre Davies

Oddi ar Wicipedia
Wyre Davies
GanwydLlanrhystud Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethnewyddiadurwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Newyddiadurwr Cymreig yw Wyre Davies a gohebydd Y Dwyrain Canol ar gyfer y BBC. Mae'n siarad Cymraeg a Sbaeneg yn rhugl.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Roedd tad-cu ei fam, Capten Evan Rowlands o Lanon,[1][2] yn gapten ar long yr Harmanteh. Wrth i'r llong weithio ei ffordd rhwng Brasil ac Arfordir Gorllewinol Canada, ar 22 Mai 1938 fe aeth yn sownd ar Ynys Zealous, Sianel Messier, Chile pan oedd dan reolaeth beilot leol.[3] Gadawodd y llong gan ei chriw a daeth ymdrechion i achub y llong i ben ar 6 Mehefin.[4] Yn ddiweddarach, roedd yn gapten y Stangrant, a gymerodd rhan ym Mrwydr yr Iwerydd pan drawyd y llong gan dorpido o U-37 gan suddo i'r gorllewin o'r Hebrides Allanol (58°27′N 12°36′W / 58.450°N 12.600°W / 58.450; -12.600) â cholli wyth o'r 38 yn y criw. Cafodd y goroeswyr, gan gynnwys Capten Rowlands eu hachub gan awyren Short Sunderland o 10 Sgwadron, Awyrlu Brenhinol Awstralia.[5][6] Yn ddiweddarach ymddeolodd Rowlands i Lanrhystud, lle ganwyd Davies.[1]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Ar ôl astudio gwleidyddiaeth America Ladin yn y brifysgol, ymunodd â Newyddion y BBC lle, ar ôl hyfforddiant, daeth yn ohebydd tramor yn America Ladin. Yn 2000 trosglwyddodd i swydd fel gohebydd gyda BBC Cymru, yn gohebu ar straeon ar draws Cymru ac yn ymddangos ar Wales Today ynghyd â rhaglen newyddion Chwech a Deg y BBC. Gohebodd hefyd ar storïau chwaraeon.[7]

Yn 2005, gofynnwyd iddo lenwi ar gyfer Katya Adler am chwe mis tra roedd hi'n cymryd absenoldeb mamolaeth. Ers hynny, mae wedi ymgymryd aseiniadau achlysurol i Balesteina ac Israel, ac ym mis Ebrill 2010 fe'i penodwyd yn ohebydd parhaol yn yDwyrain Canol, o dan gyd-Gymro, golygydd Dwyrain Canol y BBC Jeremy Bowen.[8] Bu'n gohebu yn ystod Chwyldro'r Aifft yn 2011 o du fewn Tahrir Sgwâr.

Ers canol 2013, mae Davies wedi ei leoli yn Rio de Janeiro, Brasil gyda'i deulu, ac yn ohebydd De America'r BBC.[9]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Mae Davies yn briod, gyda thair merch.[8] Mae ei ffrindiau agos yn cynnwys gohebydd y BBC Alan Johnston, a chafodd ei herwgipio yn Gaza yn 2007.[8]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Gohebwyr - Wyre Davies. S4C. 22 Mehefin 2014.
  2. Rachael Misstear (22 June 2014). "Wyre Davies has escaped injury in war zones several times but his desire for adventure just might be in his genes". South Wales Echo. Cyrchwyd 22 June 2014.
  3. "British steamer wrecked" The Times (London).
  4. "Casualty Reports" The Times (London).
  5. "SS Stangrant (+1940)". Wrecksite. Cyrchwyd 14 November 2011.
  6. "Stangrant". Uboat. Cyrchwyd 12 February 2012.
  7. "Wyre Davies". BBC Raise Your Game. Cyrchwyd 2010-06-01.
  8. 8.0 8.1 8.2 Martin Shipton (2010-04-01). "BBC's Wyre off to Middle East with young family". Western Mail. Cyrchwyd 2010-06-01.
  9. Wyre Davies (14 Hydref 2013). "Don't mention the 'F' word". BBC. Cyrchwyd 13 Chwefror 2014.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]