Winifred Jones (swffragét)

Oddi ar Wicipedia
Winifred Jones
Ganwyd1876 Edit this on Wikidata
Bu farw1955 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Gwobr/auMedal y Swffragét Edit this on Wikidata

Swffragét oedd Winifred Jones (1876 - 1955) a arhosodd yn Eagle House (lloches i swffragetiaid yng Ngwlad yr Haf) yn dilyn ei charchariad o ganlyniad i'w gweithredoedd i gefnogi Pleidleisiau i Fenywod.[1]

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganed Jones yn Spittal's Lodge yn Chesterfield. Yn ferch i William T Jones a Sarah ei wraig.[2]

Roedd ei thad yn gyfreithiwr a daeth ei chwaer, Gladys, yn ddramodydd a ddaeth yn adnabyddus fel Gwen Jones.[1]

Gweithgaredd[golygu | golygu cod]

Ym 1909, ymwelodd Canghellor y Trysorlys ar y pryd, David Llyod George, â Newcastle i geisio cefnogaeth y cyhoedd i'w 'Gyllideb y Bobl' a oedd â'r nod o gyflwyno rhaglen les newydd.

Ar ddydd Gwener 8 Hydref cyfarfu'r swffragetiaid, Christabel Pankurst a Constance Lytton i gwblhau eu cynlluniau i brotestio yng nghyfarfod Lloyd George ac i drafod yr hyn a fyddai'n digwydd pe baent yn cael eu harestio. Mae'n debyg bod Jones wedi mynychu'r cyfarfod hefyd.[3]

Y diwrnod canlynol, protestiodd y swffragetiaid yng nghyfarfodydd cyhoeddus Llyod George, rhai yn defnyddio gweithredu milwriaethus. Arestiwyd Jones am niweidio ffenestri yn Palace Theatre. Hwn oedd ei harestiad cyntaf.[1]

Yn dilyn ei harestio, ysgrifennodd Jones a swffragetiaid eraill a arestiwyd llythyr at y Times[1] oedd yn cynnwys y llinellau:

“Rydym yn apelio ar y Llywodraeth i ildio, nid i drais ein protest, ond i resymoldeb ein galwad.” [3]

Ym 1910, ymwelodd Adela Pankhurst â Jones pan aeth i Chesterfield.[3]

Carchar[golygu | golygu cod]

Coeden wedi'i phlannu gan Winifred Jones yn Eagle House

Cofnodir Jones ar Rôl Anrhydedd Carcharorion y Swffragetiaid 1905-1914.[4]

Ym 1910, arestiwyd Jones eto, ochr yn ochr â Beatrice Saunders, am niweidio Rhif 10 ac 11 Downing Street yn fwriadol, Pencadlys Llywodraeth Prydain. Cafodd ei charcharu am fis.[1]

Treuliodd Jones amser yn Eagle House ar ôl iddi gael ei harestio. Ar yr eiddo roedd bwthyn o'r enw 'The Suffragette's Rest'.[5] Plannodd Concolor Abies ar 2il Gorffennaf 1911 [1] yng ngardd y tŷ oedd yn cael ei alw'n Arboretum Annie.

Yn ddiweddarach mewn bywyd[golygu | golygu cod]

Yn ystod y 1920au, roedd Jones yn byw yn Lincoln's Inn yn Llundain gyda'i chwaer, a elwir bellach yn Gwen Jones.

Roedd Gwen Jones yn ddramodydd a ysgrifennodd ddrama o'r enw Gloriana am y Frenhines Elizabeth I. Gweithiodd y chwiorydd Jones ochr yn ochr â swffragetiaid Millicent ac Agnes Fawcett i dalu am atgyweirio cerflun Elizabeth I yn Eglwys St-Dunstan's-in-the-West, Llundain.

Bu farw Jones ym 1955.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 "Winifred Jones · Suffragette Stories". suffragettestories.omeka.net. Cyrchwyd 2020-05-12.
  2. Yr Archif Genedlaethol: Cyfrifiad 1881 ar gyfer Spital Lodge, Hasland, Swydd Derby. Rhif RG11/3434, Ffolio 54, tudalen 12.
  3. 3.0 3.1 3.2 Lytton, Constance. (2011). Prisons and Prisoners : Some Personal Experiences. Cambridge: Cambridge University Press. ISBN 978-0-511-69476-9. OCLC 889952010.
  4. "Roll of Honour of Suffragette Prisoners 1905-1914". The National Archives. 1960. Cyrchwyd 2020-05-12.
  5. "Annie's Arboretum · Suffragette Stories". suffragettestories.omeka.net. Cyrchwyd 2020-05-12.