Millicent Fawcett

Oddi ar Wicipedia
Millicent Fawcett
GanwydMilicent Garrett Edit this on Wikidata
11 Mehefin 1847 Edit this on Wikidata
Aldeburgh Edit this on Wikidata
Bu farw5 Awst 1929 Edit this on Wikidata
Gower Street Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, ymgyrchydd dros hawliau merched, ysgrifennwr, economegydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amElectoral Disabilities of Women Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolY Blaid Unoliaethol Ryddfrydol Edit this on Wikidata
TadNewson Garrett Edit this on Wikidata
MamLouisa Dunnell Edit this on Wikidata
PriodHenry Fawcett Edit this on Wikidata
PlantJ. Malcolm Fawcett, Philippa Fawcett Edit this on Wikidata
Gwobr/auBoneddiges yr Uwch Groes o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig Edit this on Wikidata

Roedd Y Feistres Millicent Garrett Fawcett GBE (11 Mehefin 18475 Awst 1929) yn ffeminist, yn arweinydd gwleidyddol ac yn arweinydd undeb. Caiff ei hadnabod yn bennaf am ei gwaith yn ymgyrchu dros y bleidlais i fenywod.

Fel swffragist (yn hytrach na swffraget), roedd hi'n ymgyrchydd cymedrol ond di-flino. Aeth llawer o'i hegni ar yr ymdrech i wella cyfleoedd i fenywod mewn addysg bellach, a yn 1875 bu iddi gyd-sefydlu Coleg Newnham, Caergrawnt.[1] Yna daeth yn lywydd ar Undeb Cenedlaethol Cymdeithasau y Bleidlais i Fenywod (neu'r NUWSS), a bu'n lywydd o 1897 hyd at 1919. Ym mis Gorffennaf 1901 penodwyd hi i arwain comisiwn Llywodraeth Prydain yn Ne Affrica i ymchwilio i amodau'r gwersylloedd crynhoi a oedd wedi'u creu yno ar ddechrau Ail Ryfel y Boer. Roedd ei hadroddiad yn atgyfnerthu'r hyn roedd yr ymgyrchydd Emily Hobhouse am amodau'r gwersylloedd.[2]

Cefndir gwleidyddol[golygu | golygu cod]

Ganwyd Millicent Garrett Fawcett ar 11 Gorffennaf 1847 yn Aldeburgh[3] yn ferch i Newson Garrett, entrepreneur llwyddiannus o Leiston, Suffolk, a'i wraig, Louisa (née Dunnell; 1813–1903), o Lundain.[4][5] Roedd hi'n un o ddeg o blant.

Pan roedd hi'n blentyn, cyflwynodd ei chwaer hŷn, Elizabeth Garrett Anderson, a ddaeth yn ddoctor benywaidd cyntaf Prydain, hi i Emily Davies, swffragist o Loegr. Ysgrifennodd merch Elizabeth, Louisa Garrett Anderson ym mywgraffiad ei mam ddatagniad gan Davies i'w mam a Fawccett, lle dywedodd Davies wrth y chwiorydd, "Mae'n glir beth sy'n rhaid i mi ei wneud. Mae'n rhaid i mi ymroi fy hun i sicrhau addysg uwch, wrth i chi agor y proffesiwn meddygol i fenywod. Ar ôl gwneud y pethau hyn, rhaid i ni weld ynglŷn â chael y bleidlais. Yna trodd at Millicent: "Rwyt ti'n iau nag ydyn ni, Millie, felly bydd yn rhaid i ti wneud hynny." [6]

Yn 1858 aeth i Lundain i astudio mewn ysgol breifat yn Blackheath. Pan roedd hi'n 19 aeth i glywed araith gan yr AS radicalaidd, John Stuart Mill. Roedd e'n eiriolwyr cynnaf o hawl menywod i bleidleisio ar draws y byd. Gwnaeth ei araith ar hawliau cyfartal argraff fawr ar Millicent, a daeth hi'n rhan o'i ymgyrch.

Gyda deg o fenywod ifanc eraill, gan gynnwys Garret a Daviesm gweithiodd Fawcett i ffurfio Cymdeithas Kensington, grŵp trafod wedi'i ffocysu ar y bleidlais i fenywod yn Lloegr yn 1865. Yn 1866, yn 19 oed ac yn rhy ifanc i lofnodi, trefnodd Fawcett y llofnodion ar gyfer y ddeiseb gyntaf dros y bleidlais i fenywod a daeth yn ysgrifenyddes i Gymdeithas y Bleidlais i Fenywod Llundain.

Gweithgarwch gwleidyddol[golygu | golygu cod]

Dechreuodd gyrfa wleidyddol Fawcett ar ôl iddi fynychu'r cyfarfod cyntaf i gael y bleidlais i fenywod. Roedd hi'n ymgyrchydd cymedrol, yn annhebyg i'r Swffragetiaid.

Roedd hi o'r farn bod eu gweithredoedd yn niweidio'r siawns i fenywod gael y bleidlais gan droi ASau ac aelodau'r cyhoedd yn eu herbyn.[7]  Erbyn 1905, roedd gan yr NUWSS 305 o gymdeithasau a bron i 50,000 o aelodau.[8] 

Datgysylltodd Fawcett ei hun â rhyddfrydiaeth yn 1884: ond roedd hi dal o'r un farn am y bleidlais i fenywod. Fodd bynnag, bu i'w safbwynt gwleidyddol newid, a daethant yn debycach i'w safbwyntiau pan roedd hi'n ieuengach. Yn 1883, daeth Fawcett yn lywydd ar y Pwyllgor Apeliadau Arbennig.[9]

Roedd Fawcett hefyd yn awdur a oedd yn gsyrifennu dan ei henw ei hun, ond fel ffigur cyhoeddus Mrs. Henry Fawcett oedd hi. Roedd ganddi dri llyfr, llyfr wedi'i gydysgrifennu â'i gŵr, Henry Fawcett, a nifer o erthyglau.[10] 

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Janet Howarth, ‘Fawcett, Dame Millicent Garrett (1847–1929)’, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004; online edn, Oct 2007 accessed 4 Jan 2017
  2. "Spartacus educational".
  3. "Fawcett Society History".
  4. Manton, Jo (1965). Elizabeth Garrett Anderson: England's First Woman Physician. London: Methuen. t. 20.
  5. Ogilvie, Marilyn Bailey (1986). Women in science: antiquity through the nineteenth century: a biographical dictionary with annotated bibliography (arg. 3. print.). Cambridge, Mass.: MIT Press. ISBN 0-262-15031-X.
  6. Garrett Anderson, Louisa (1939). Elizabeth Garrett Anderson, 1836-1917. Faber and Faber.
  7. Van Wingerden, Sophia A. (1999). The women's suffrage movement in Britain, 1866–1928. Palgrave Macmillan. t. 100. ISBN 0-312-21853-2.
  8. National Union of Women's Suffrage Societies. "NUWSS". National Union of Women's Suffrage Societies.
  9. Copeland, Janet. "Millicent Garrett Fawcett". History Review. Cyrchwyd 25 Chwefror 2013.[dolen marw]
  10. Rubinstein, David. "Millicent Garrett Fawcett and the Meaning of Women's Emancipation, 1886–99". Victorian Studies. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-12-14. Cyrchwyd 25 Chwefror 2013.