William Theophilus Thomas (Gwilym Gwenffrwd)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
William Theophilus Thomas
Parchg William Theophilus Thomas (Gwilym Gwenffrwd, 1824-99) NLW3364216 (cropped).jpg
Ganwyd 1824 Edit this on Wikidata
Treffynnon Edit this on Wikidata
Bu farw 11 Mai 1899 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth gweinidog yr Efengyl, bardd Edit this on Wikidata

Gweinidog Ymneilltuol a bardd Cymraeg oedd William Theophilus Thomas (182411 Mai 1899), a adnabyddid gan amlaf wrth ei enw barddol Gwilym Gwenffrwd.[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed Gwilym yn Nhreffynnon, Sir y Fflint, rywbryd yn 1824. Aeth i fyw ym Manceinion yn ddyn ifanc. Yno ymunodd â'r eglwys Annibynnol Gymraeg yn Gartside. Dechreuodd bregethu fel pregethwr cynorthwyol ac yn 1851 fe'i ordeiniwyd yn weinidog yng nghapel Cana yn Llanddaniel Fab, Sir Fôn.[1]

Ar ôl ymddeol am dymor byr oherwydd cyflwr bregus ei iechyd, symudodd i'r Wyddgrug lle treuliodd gyfnod yn weinidog eglwysi Annibynnol Soar a Jerusalem. Bu farw ar yr 11eg o Fai 1899 yn yr Wyddgrug.[1]

Llenydda[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ei gyfnod ym Manceinion daeth i adnabod beirdd a llenorion Cymraeg y ddinas honno a dechrau llenydda a barddoni. Cyfrannodd nifer o erthyglau a cherddi i'r newyddiaduron a'r cylchgronau Cymraeg a daeth yn bur adnabyddus felly. Cyhoeddodd gyfrol o ddiwinyddiaeth, Sylwadau ar Fodolaeth Enaid, yn 1883.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Y Trefniedydd Cyfreithiol (1863)
  • Sylwadau ar Fodolaeth Enaid (1883)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]