William Nathaniel Jones

Oddi ar Wicipedia
William Nathaniel Jones
Ganwyd20 Mawrth 1858 Edit this on Wikidata
Llandybïe Edit this on Wikidata
Bu farw24 Mai 1934 Edit this on Wikidata
Llanwrtyd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd, arwerthwr Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 34ydd Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata

Roedd William Nathaniel Jones, (20 Mawrth 1858 - 24 Mai 1934), oedd yn cael ei adnabod gan amlaf fel W. N. Jones yn arwerthwr, swyddog milwrol gwirfoddol ac yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol Caerfyrddin rhwng 1928 a 1929. [1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd W N Jones yn nhafarn y Raven Inn, Llandybïe yn fab i William Jones, Arwerthwr ac Elizabeth (née Francis), tafarnwraig, ei ail wraig. Cafodd ei fedyddio yn Eglwys Crist Cwmaman ar 13 Chwefror 1859 [2]. Er iddo gael ei fedyddio yn Eglwys y plwyf roedd yn aelod selog gyda'r Wesleaid, yn bregethwr cynorthwyol i'r enwad ac yn oruchwyliwr cylchdaith Wesleaidd Llandybie. Bu'n un o'r cynrychiolwyr lleyg Cymreig i Gynhadledd Methodistiaid Prydain Fawr ar sawl achlysur [3]

Pan oedd tua 3 mlwydd oed bu farw ei dad, ail briododd ei fam a gŵr o'r enw Thomas Bullen.

Ar ôl cael addysg elfennol leol ymadawodd Jones a'r ysgol pan oedd tua 12 mlwydd oed.

Teulu[golygu | golygu cod]

Priododd Jones, ym 1881 a Margaret Jane, merch Thomas Francis, Llandeilo, a bu iddynt ddau fab a merch a oroesodd a dau blentyn arall a fu farw yn eu plentyndod. [4]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Hysbyseb Jones ei fod wedi etifeddu busnes ei dad [5]

Wedi ymadael a'r ysgol cafodd Jones ei swydd gyntaf fel bachgen y post yng ngwaith tunplat yn Llansawel. Ar ôl hynny bu'n gweithio am gyfnod i gwmni rheilffordd y Great Western. Pan fu farw tad Jones ym 1861 aeth ei fusnes arwerthu i'w fab hynaf Herbert Nathaniel Jones(1837-1880), hanner brawd William Nathaniel. Pan fu farw Herbert ym 1880 etifeddodd William y busnes.

Daeth yn arwerthwr llwyddiannus iawn, o'r elw cafodd o'i fusnes arwerthu buddsoddodd yng ngwaith tunplat Tir-y-dail, agorodd pwll glo Tir-y-dail a phrynodd gwaith dur Birchgrove Abertawe.[6] Bu'n sefydlydd a chyfarwyddwr gwaith nwy Rhydaman. Daeth yn hynod gyfoethog![7]

Gyrfa gyhoeddus[golygu | golygu cod]

Pwyllgor Ysbyty Meddwl Caerfyrddin 1915. Mae Jones yn canol union y rhes blaen gyda'i freichiau wedi eu plethu dros ei fol

Chwaraeodd Jones ran amlwg ym mywyd cyhoeddus Sir Gaerfyrddin. Roedd yn Ynad Heddwch,[8] roedd yn Lefftenant-cyrnol ym Mataliwn Gwirfoddolwyr Sir Gaerfyrddin [9], roedd yn aelod o fyrddau llywodraethol nifer o sefydliadau addysg gan gynnwys Ysgol, Llandybïe, Ysgol Ganolradd, Llandeilo a Choleg Prifysgol Cymru Aberystwyth. [3]. Roedd yn aelod o fwrdd carthffosiaeth Dyffryn Aman, [10] yn gadeirydd ysbyty iechyd meddwl Sir Gaerfyrddin ac yn aelod o bwyllgor tloty'r sir.

Bu'n aelod o Gyngor Trefol Dyffryn Aman ac yn aelod o Gyngor Sir Gaerfyrddin o'i sefydlu hyd ei farwolaeth, gan wasanaethu fel ei gadeirydd ym 1897. Gan fod 1897 yn flwyddyn jiwbilî diemwnt y Frenhines Fictoria gafodd Jones gynrychioli'r sir yn y dathliadau ym Mhalas Buckingham.[3] Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Sir Gaerfyrddin ym 1924.[11]

Ym 1926, ymunodd Syr Alfred Mond,[12] AS Rhyddfrydol Sir Gaerfyrddin, a'r Blaid Geidwadol. Dewiswyd Jones i fod yr ymgeisydd Rhyddfrydol i'w herio yn yr etholiad Cyffredinol nesaf. Beth bynnag, ni fu'n rhaid i Jones aros tan yr etholiad cyffredinol nesaf gan fod Mond wedi ei ddyrchafu i Dŷ'r Arglwyddi ym 1928 gan achosi isetholiad yng Nghaerfyrddin. Llwyddodd Jones i gadw'r sedd i'w blaid o drwch y blewyn. Dim ond 47 pleidlais oedd rhyngddo ef a'r ymgeisydd Lafur Daniel Hopkin.

Isetholiad Caerfyrddin 1928

Nifer y pleidleiswyr 37,482

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol William Nathaniel Jones 10,201 35.5
Llafur Daniel Hopkin 10,154 35.4
Ceidwadwyr Syr Courtenay Cecil Mansel 8,361 29.1
Mwyafrif 47 0.1
Y nifer a bleidleisiodd 30,316 76.6
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd

Yn etholiad cyffredinol 1929 bu Hopkin a'r Blaid Lafur yn fuddugol a chollodd Jones ei sedd ar ôl dim ond blwyddyn o wasanaeth fel Aelod Seneddol.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw yn sydyn wrth fynd i dal trên yn Llanwrtyd yn 76 mlwydd oed. [13] Claddwyd ei weddillion ym mynwent plwyf Llandybïe.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Jones, Lt-Col William Nathaniel, (1858–24 May 1934), DL; JP". WHO'S WHO & WHO WAS WHO. doi:10.1093/ww/9780199540884.013.u212103. Cyrchwyd 2021-04-06.
  2. Cofrestr Bedydd Eglwys Christ Cwmaman Tud 28 Rhif 217 1859, January 13th William Nathaniel son of William Jones Raven Inn, Auctioneer and Elizabeth Gwasanaeth Archifau Cymru
  3. 3.0 3.1 3.2 Y winllan, Cyf. LIV rhif. 10 - Hydref 1901 tud 238 Cynrychiolwyr Lleygol Cymreig Cynadledd 1901 adalwyd 6 Ebrill 2021
  4. Yr Archif Genedlaethol, Cyfrifiad 1911 ar gyfer Dyffryn, Rhydaman Cyfeirnod RG14/32982; Rhif: 1
  5. "Advertising - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1880-05-29. Cyrchwyd 2021-04-06.
  6. "Ammanford, Carmarthenshire web site". www.users.ic24.net. Cyrchwyd 2021-04-06.
  7. AN ABERLASH MILLIONAIRE adalwyd 6 Ebrill 2021
  8. "Justices Of The Peace (Carmarthenshire Advisory Committee) - Monday 24 February 1930 - Hansard - UK Parliament". hansard.parliament.uk. Cyrchwyd 2021-04-06.
  9. "NEW VOLUNTEER OCI - Llanelly Star". Brinley R. Jones. 1917-07-14. Cyrchwyd 2021-04-06.
  10. "THE AMMANFORD BILL - The Cambria Daily Leader". Frederick Wicks. 1915-03-25. Cyrchwyd 2021-04-06.
  11. "Page 2415 | Issue 32920, 21 March 1924 | London Gazette | The Gazette". www.thegazette.co.uk. Cyrchwyd 2021-04-06.
  12. "Mond, Alfred Moritz, first Baron Melchett (1868–1930), industrialist, financier, and politician". Oxford Dictionary of National Biography. doi:10.1093/ref:odnb/35064. Cyrchwyd 2021-04-06.
  13. "Ex-M.P. Drops Dead." Daily Telegraph, May 25, 1934 Gale Primary Sources mynediad llyfrgelloedd cyhoeddus. Adalwyd 6 Ebrill 2021
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Syr Alfred Mond
Aelod Seneddol

Caerfyrddin
19281929

Olynydd:
Daniel Hopkin