William Henry Yelverton
William Henry Yelverton | |
---|---|
![]() William Henry Yelverton (tua 1853) | |
Ganwyd | 5 Mawrth 1791 ![]() |
Bu farw | 28 Ebrill 1884 ![]() Llundain ![]() |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Teyrnas Prydain Fawr ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, tirfeddiannwr ![]() |
Swydd | Aelod o 11eg Senedd y Deyrnas Unedig ![]() |
Tad | William Yelverton, 2nd Viscount Avonmore ![]() |
Mam | Mary Reade ![]() |
Priod | Elizabeth Lucy Morgan ![]() |
Plant | Mary Elizabeth Yelverton, Louisa Anne Yelverton, Henrietta Maria Yelverton, William Henry Morgan Yelverton ![]() |
Roedd yr Anrhydeddus William Henry Yelverton (5 Mawrth 1791 – 28 Ebrill 1884) yn dirfeddiannwr a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Chwig Bwrdeistref Caerfyrddin rhwng 1832 a 1835 [1]
Ganwyd Yelverton yn Belle Isle, Iwerddon yn fab i William Charles Yelverton 2il Ardalydd Avonmore a Mary, merch John Reid, ei wraig.
Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Eton cofrestrodd fel myfyriwr yng Ngholeg y Trwyn Pres, Rhydychen [2]
Ym 1825 priododd Elizabeth Lucy, merch John Morgan, Fwrnais, bu hi farw ym 1863; bu iddynt un mab a thair merch.[3]
Ystâd[golygu | golygu cod y dudalen]
Ym 1811 etifeddodd Yelverton ystâd Blaiddbwll gan ewythr i'w mam y Capten John Parr[4], ategwyd at yr eiddo trwy ei briodas pan ddaeth yn berchennog ar waith haearn Caerfyrddin a phwll glo yn ogystal â thir yn ardal Caerfyrddin a Llanelli gan gynnwys ystâd Abaty Hendy-gwyn ar Daf.
Erbyn 1878 roedd wedi mynd i drafferthion ariannol ac fe wnaed yn fethdalwr [5].
Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]
Etholwyd Yelverton fel Aelod Seneddol Bwrdeistref Caerfyrddin yn Etholiad Cyffredinol 1832 ond fe gollodd ei sedd i'r Torïaid yn etholiad 1835.
Er ei fod wedi bod yn AS Chwig / Rhyddfrydol, yr oedd yn un o'r landlordiaid a fu'n gyfrifol am y torri allan mawr ar ôl Etholiad Cyffredinol 1868, lle cafodd nifer o denantiaid eu taflu allan o'u ffermydd gan y tirfeddianwyr am gefnogi ymgeiswyr Rhyddfrydol yn hytrach na dilyn cyfarwyddyd y landlord i gefnogi'r Ceidwadwyr [6].
Bu'n Uchel Siryf Sir Gaerfyrddin ym 1853
Achos Thelwell v. Yelverton[golygu | golygu cod y dudalen]
Ym mis Awst 1852 cyfarfu'r Uwchgapten William Charles Yelverton, Is-iarll Avonmore, a nai William Henry, merch o'r enw Maria Theresa Longworth tra ar daith stemar yn ôl o Ryfel y Crimea lle fu o'n filwr a hi'n nyrs. Syrthiodd Miss Longworth mewn cariad ag ef a bu yn ei ganlyn am sawl blwyddyn. Ar 15 Awst 1857 priododd y ddau yn gyfrinachol yn Rostrevor, Swydd Down, Iwerddon. Ond cyn pen blwyddyn priododd yr Is-iarll eto, heb ysgaru a'i wraig gyntaf. Roedd Avonmore yn honni nad oedd ei briodas i Miss Longworth yn ddilys.
O dan Statud Brenin Siôr II (19 Geo 2. c.13) yng nghyfraith Iwerddon, roedd unrhyw briodas rhwng Pabydd a Phrotestant neu briodas rhwng dau Brotestant a ddathlwyd gan offeiriad Catholig yn ddi-rym. Rhwng 21 Chwefror 1861 a 4 Mawrth 1861, cynhaliwyd achos Thelwall v Yelverton i farnu os oedd y briodas yn ddilys neu beidio. Er bod yr Uwch-gapten yn Brotestant, a Miss Longworth yn Gatholig Rufeinig, ac er eu bod wedi eu priodi gan offeiriad Catholig Rhufeinig, penderfyniad y llys oedd bod y briodas yn ddilys gan bod Yelverton wedi honni wrth ei ddarpar wraig ei fod yn Babydd[7]. Ym mis Mawrth 1861 cafodd ei wahardd o bob dyletswydd filwrol. Ar 28 Gorffennaf 1864 ar apêl, gwrth-drowyd penderfyniad Thelwall v. Yelverton, a phenderfynodd Tŷ'r Arglwyddi fod priodas gyntaf William Charles yn anghyfreithlon, ac felly roedd ei ail briodas yn ddilys[8].
Bu William Henry a'i deulu yn ochri gyda Miss Longworth yn yr achos yn erbyn eu nai, gan achosi rhwyg teuluol. Yn wir, erbyn 1862, roedd William a Lucy eu hunain yn y llys, gan ddwyn achos o enllibio Miss Longworth yn erbyn brawd yng nghyfraith Avonmore, James Walker, a oedd wedi ysgrifennu llythyr iddynt yn eu beirniadu am barhau i gysylltu â Miss. Longworth wedi'r achos. Yn ôl Walker, roedd teulu Hendy Gwyn yn cefnogi Miss. Longworth oherwydd, pe bai ei phriodas i Avonmore wedi'i gadarnhau fel un dilys, yna byddai plant yr Is-iarll o'i (ail) briodas yn blant anghyfreithlon - ac felly byddai eu mab, Willie Yelverton, wedi cael dod yn etifedd i ystadau ac is-iarlliaeth Avonmore. Cyhuddodd Walker William Yelverton o ymddygiad mor hunanol, mor sylfaenol, mor annaturiol ei bod hi'n anodd credu ei bodolaeth[9]. Collodd Walker yr achos a bu'n rhaid iddo dalu £500 o iawndal[10].
Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Bu Yelverton farw yn Llundain yn 93 mlwydd oed [11] a rhoddwyd ei weddillion i'w gorwedd yng nghladdgell y teulu yn Eglwys St Mair Hendy Gwyn.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Annals and Antiquities of the Counties and County Families of Wales, Thomas Nicholas, Cyf 1 Tud 307 [1] adalwyd 4 Rhagfyr 2015
- ↑ Alumni Oxonienses [2] Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 5 Rhagfyr 2015
- ↑ "FamilyNotices - North Wales Gazette". John Broster. 1825-06-16. Cyrchwyd 2015-12-04.
- ↑ National Library of Wales journal - Cyf. 22, rh. 1 Haf 1981 The families of Blaiddbwyll [3] adalwyd 5 Rhagfyr 2015
- ↑ "THE FAILURE OF THE HON W H YELVERTON OF CARMARTHEN - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1878-10-19. Cyrchwyd 2015-12-04.
- ↑ "REV W THOMAS'S TESTIMONY - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1910-01-22. Cyrchwyd 2015-12-04.
- ↑ "THE YELVERTON CASE - Monmouthshire Merlin". Charles Hough. 1862-07-12. Cyrchwyd 2017-12-02.
- ↑ "THE YELVERTON CASE - Monmouthshire Merlin". Charles Hough. 1864-07-30. Cyrchwyd 2017-12-02.
- ↑ "ANOTHER YELVERTON CASE - Monmouthshire Merlin". Charles Hough. 1862-01-25. Cyrchwyd 2017-12-02.
- ↑ "No title - Monmouthshire Merlin". Charles Hough. 1862-06-28. Cyrchwyd 2017-12-02.
- ↑ "NODIADAUYRWYTHNOS - Seren Cymru". William Morgan Evans. 1884-05-02. Cyrchwyd 2015-12-05.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: John Jones |
Aelod Seneddol Bwrdeistref Caerfyrddin 1832 – 1835 |
Olynydd: David Lewis |