William Hallowes Miller
Gwedd
William Hallowes Miller | |
---|---|
Ganwyd | 6 Ebrill 1801 Llanymddyfri |
Bu farw | 20 Mai 1880 Caergrawnt |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ffisegydd, academydd, grisialegydd |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Medal Brenhinol, Medal Brenhinol, Cymrawd Cymdeithas Frenhinol Caeredin |
Crisialegydd o Gymru oedd William Hallowes Miller (6 Ebrill 1801 – 20 Mai 1880), a hanodd o'r Felindre, Llangadog, Sir Gaerfyrddin.[1] Sefydlydd wyddoniaeth grisial a elwir yn 'grisialegaeth'. Er iddo raddio yn 1826 mewn mathemateg yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt, yn 31 oed, cafodd ei benodi'n Athro adran mwynoleg y coleg yn 1832.[2]
Caiff ei gysylltu gyda dwy gangen o wyddoniaeth: adnabyddwyd ei theori grisialaeth drwy'r byd fel 'System Miller', ac mae ei waith ar grisialau'n dal i enyn parch ac edmygedd hyd heddiw. Cyhoeddodd ei waith mewn erthygl o'r enw Treatise on Crystallography yn 1839.[3]
Roedd hefyd yn un o'r gwyddonwyr pwysicaf i ddylanwadu ar system mesur a phwysau Senedd Lloegr yn 1834.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Obituary Notice - William Hallowes Miller". Proceedings of the Royal Society of London 31: ii – vii. 1880–1881. https://books.google.com/books?id=vt2FOl_eH5MC&dq=William+Hallowes+Miller&pg=RA1-PA522.
- ↑ Mae un neu ragor o'r brawddegau yn cynnwys testun sydd bellach yn y parth cyhoeddus: Chisholm, Hugh, gol. (1911). "Miller, William Hallowes". Encyclopædia Britannica. 18 (arg. 11th). Cambridge University Press. t. 465.CS1 maint: ref=harv (link)
- ↑ Oxford English Dictionary Online, Mai 2007