William Glyn
William Glyn | |
---|---|
Ganwyd | 1504 Heneglwys |
Bu farw | 21 Mai 1558 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | offeiriad Catholig, esgob Catholig |
Swydd | is-ganghellor, Esgob Catholig Bangor |
William Glyn neu William Glynn (1504 - 21 Mai 1558) oedd Esgob Bangor o 1555 hyd ei farw. Ef oedd yr esgob Catholig olaf ym Mangor.[1]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganed Glyn yn Heneglwys, Ynys Môn, yn fab i John Glyn. Addysgwyd ef yng Ngholeg y Breninesau, Caergrawnt. Mae'n ymddangos iddo gydymffurfio a newidiadau crefyddol y brenin Harri VIII, er iddo ymddiswyddo o gadair ei goleg yn ystod teyrnasiad Edward VI. Pan ddaeth y frenhines Mari i'r orsedd, daeth yn llywydd Coleg y Breninesau yn 1553, ac yr oedd yn un o'r rhai a yrrwyd i ddadlau â Nicholas Ridley a Hugh Latimer yn 1554. Aeth i Rufain yn 1555, ac yn ddiweddarach y flwyddyn honno penodwyd ef yn Esgob Bangor. Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Sir Gaernarfon ym 1562
Gadawodd fab o'r enw Gruffydd Glyn, fu hefyd yn Siryf Sir Gaernarfon ym 1564. Penodwyd Morys Clynnog yn Esgob Bangor fel olynydd iddo, ond bu farw'r frenhines Mari a bu raid iddo ffoi i Rufain cyn cael ei gysegru.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ William George Searle (1867). The History of the Queens' College of St. Margaret and St. Bernard in the University of Cambridge (yn Saesneg). Deighton, Bell & Company. t. 249.