William Curtis

Oddi ar Wicipedia
William Curtis
Ganwyd11 Ionawr 1746 Edit this on Wikidata
Alton Edit this on Wikidata
Bu farw7 Gorffennaf 1799 Edit this on Wikidata
Kensington a Chelsea Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Prydain Fawr Edit this on Wikidata
Galwedigaethbotanegydd, gwyfynegwr, mwsoglegwr, mycolegydd, fferyllydd Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd Cymdeithas y Linnean Edit this on Wikidata

Roedd William Curtis (11 Ionawr 17467 Gorffennaf 1799) yn fotanegwr Saesneg ac yn entomolegydd. Fe'i ganwyd yn Alton, Hampshire.

Dechreuodd gyrfa Curtis fel apothecari, (fferyllydd heddiw) cyn ymrwymo i fotaneg a hanes naturiol. Daeth ei gyhoeddiadau yn boblogaidd iawn ac yn wir enillodd ei fywoliaeth drwyddynt. Datblygodd y tuedd i gyhoeddi ar gyfer amaturiaid brwd yn y 18g. A phan oedd yn 25 mlwydd oed cyhoeddodd y llawlyfr Instructions for collecting and preserving insects; particularly moths and butterflies. Addurnwyd y llyfr â lluniau plât-copr, yn dangos yn glir y rhwydi ac offer angenrheidiol.

Cafodd waith fel dangosydd planhigion a Praefectus Horti (prif-arddwr) yn y Chelsea Physic Garden o 1771 i 1777, swydd o bwys ar y pryd. Wedyn sefydlodd ei erddi ei hun, sef y London Botanic Garden yn Lambeth erbyn 1779, cyn symud i erddi yn Brompton ym 1789. Ei waith pwysicaf oedd Flora Londinensis (6 chyfrol rhwng 1777 a 1798), gwaith arloesol a ffocws ar fywyd gwyllt yn y ddinas. Er nad oedd yn llwyddiant masnachol, aeth ymlaen i gyhoeddi The Botanical Magazine ym 1787, gyda phlatiau lliwgar gan artistiaid a ddaeth yn enwog nes ymlaen e.e. gan James Sowerby, Sydenham Edwards, ac William Kilburn.

Daeth Curtis yn gyfoethog a gwerthwyd rhyw 3,000 o gopïau o'i lyfrau. Er clod i'w gyfraniad i boblogeiddio botaneg, enwir y genws Curtisia ar ei ôl. Wedi ei farwolaeth, ailenwyd y cylchgrawn, Curtis's Botanical Magazine. Cylchgrawn Gerddi Kew ydy e erbyn heddiw, o dan yr un enw.

Mae ffenestr liw er cof amdano yn St. Mary's Church, Battersea, ardal lle casglwyd llawer o samplau. Mewn cyhoeddiadau gwyddonol, rhestrir planhigion a ddisgrifiwyd ganddo gyda'r ansoddair "Curtis". Yn yr 1980au, sefydlwyd y William Curtis Nature Park gan y Trust for Urban Ecology, ond erbyn heddiw, mae Neuadd y Ddinas, Llundain, yn sefyll ar y tir hwnnw.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni[golygu | golygu cod]