William Addams Williams Evans

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
William Addams Williams Evans
Ganwyd Medi 1853 Edit this on Wikidata
Brynbuga Edit this on Wikidata
Bu farw 23 Ebrill 1919 Edit this on Wikidata (65 oed)
Llandegfedd Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth pêl-droediwr, Offeiriad Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/au Oxford University A.F.C. Edit this on Wikidata
Safle amddiffynwr Edit this on Wikidata

Roedd William Addams Williams Evans (Medi 1853 - 23 Ebrill 1919) yn eglwyswr Gymreig a chwaraeodd i dîm pêl-droed cenedlaethol Cymru, yn y ddwy gêm ryngwladol gyntaf ym 1876 a 1877 cyn ddilyn gyrfa fel gweinidog yn Eglwys Loegr.[1]

Bywyd ac addysg gynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed Evans ym Mrynbuga, Sir Fynwy, yn fab i'r Parch William Evans y ficer lleol a Caroline Frances, merch William Addams-Williams , Castell Llangybi, Aelod Seneddol Sir Fynwy, ar ôl yr hwn y cafodd ei enwi.

Ar ôl cwblhau ei addysg yn Ysgol Amwythig lle fu'n aelod o dîm criced yr ysgol[2], aeth Evans i Goleg Sant Ioan, Rhydychen ym 1872 lle raddiodd ym 1877 fel Baglor yn y Celfyddydau ac yna ordeiniwyd ef fel Curad yn Eglwys Loegr.[1][3]

Gyrfa Eglwysig[golygu | golygu cod y dudalen]

Eglwys Llandegfedd

Gwasanaethodd Evans fel curad yn Barwell, Swydd Gaerlŷr am chwe blynedd cyn cyfnodau byr yn Eglwys yr Holl Saint, Northampton a Harrowden, Swydd Bedford.

Ym 1885, dychwelodd i Sir Fynwy i wasanaethu fel rheithor Llandegfedd, lle y bu hyd ei farwolaeth ym 1919.

Gyrfa pêl-droed[golygu | golygu cod y dudalen]

Tra ym Mhrifysgol Rhydychen, chwaraeodd Evans i dîm pêl-droed y brifysgol ond methodd i ennill glas. Ym 1876, atebodd hysbyseb a osodwyd gan Llewelyn Kenrick yn "The Field" i chwilio am chwaraewyr o Gymru i gynrychioli eu gwlad mewn gem yn erbyn Yr Alban.[4]

Evans oedd yr unig chwaraewr o Dde Cymru a ddewiswyd ar gyfer XI rhyngwladol cyntaf Cymru, gyda phob chwaraewr arall yn dod o'r gogledd (ac eithrio John Hawley Edwards a aned yn yr Amwythig ac oedd wedi cynrychioli tîm pêl-droed cenedlaethol Lloegr yn flaenorol). Chwaraewyd y gêm yn Hamilton Crescent, Partick, ar 25 Mawrth 1876 collodd Cymru'r gêm o 4 gôl i ddim.[5]

Chwaraewyd gêm gartref yn erbyn yr Alban ar y Cae Ras, Wrecsam ar Fawrth 5, 1877, gydag Evans yn cadw ei le yn yr amddiffyn. Bu'r Albanwyr yn fuddugol eto, gan ennill 0-2, gydag un o'r goliau yn cael ei sgorio gan Evans yn ei rwyd ei hun.[6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 Davies, Gareth; Garland, Ian (1991). Who's Who of Welsh International Soccer Players. Bridge Books. p. 62. ISBN 1-872424-11-2.
  2. Cricet Archive William Addams-Williams-Evans [1] adalwyd 20 Rhagfyr 2015
  3. Nodyn:Cite wikisource
  4. "The Story of Welsh Football". 1876 Kenrick's Challenge. www.wrexham.gov.uk. Cyrchwyd accessdate=2015-12-20. Missing pipe in: |accessdate= (help); Check date values in: |accessdate= (help)
  5. "Wales 0 Scotland 2 (5 March 1877)". Welsh Football Data Archive. Cyrchwyd accessdate=2015-12-20. Missing pipe in: |accessdate= (help); Check date values in: |accessdate= (help)
  6. Sgorio S4C Hanes [2] adalwyd 20 Rhagfyr 2015