Wicipedia:Y Ddesg Gyfeirio/Amrywiol

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
P question.svg ''Gofynnwch eich cwestiynau ynglŷn â phopeth arall yma gan roi cynnig yma. Cofiwch lofnodi'r neges drwy ychwanegu pedair sgwigl (~~~~) ar y diwedd, os gwelwch yn dda.

Sut mae ychwanegu at categori ?[golygu cod y dudalen]

Fy myfyrwyr wedi bod yn creu tudalennau. Gobeithio fod dim angen gormod o adolygu. Dau gwestiwn. Oes modd i ddefnyddiwr ychwanegu at gategori ? (Mi welaf fod Llywelyn2000 wedi gwneud hyn ar gyfer Ada Yonath - diolch am hynny.) Ail gwestiwn - mi welaf, hefyd, fod Llywelyn2000 wedi ychwanegi - a chyfieithu'r tecst - ar gyfer llun comin Wicipedia ar gyfer "Ada Yonath". Doeddwn i ddim yn gwybod sut i wneud hyn. Ymhle mae'r cyfarwyddiadau am rywbeth felly, os gwelwch yn dda ? --Deri (sgwrs) 08:54, 23 Mai 2016 (UTC)

Pa hwyl! Mae'n braf eu croesawu yma i'n cornel fach glyd! Ar waelod y blwch golygu (y cod) mi fedrwch ychwanegu [[Categori:Unrhyw enw call!]] a mi wneith greu tudalen gategori newydd. Fel arfer mi fuaswn yn chwilio am gategori sy'n bodoli'n barod yn gyntaf. Mae categoriau'n dilyn ffurf goeden neu ganghennau e.e. mae Cymru, Japan, India'n perthyn i Categori:Gwledydd. Dylid defnyddio'r lluosog; ond sylwer mai'r enw unigol sydd i erthyglau. Gyda llaw, mae'r llun yn dod o Comin drwy ei alw - yr ail linell o frig y ddalen [1] Mae'r testun sy'n dilyn hefyd yn y wybodlen hon: ar y dryededd linell. ac mae croeso i ti newid y geiriad wrth gwrs! Pob hwyl arni. Os da chi awydd sesiwn o olygu ym Mangor unrhyw dro, jyst gweiddwch a mi ddo i neu rywun arall draw! Llywelyn2000 (sgwrs) 15:03, 23 Mai 2016 (UTC)