Cymorth:Gweithdy Cyfieithu

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Wicipedia:CYF)
Hafan y
Gweithdy
TiwtorialCwestiynauCeisiadauErthyglau sydd
angen eu cywiro
AdnoddauNodiadauNegesfwrddAelodau

Nod y Gweithdy Cyfieithu[golygu | golygu cod]

Nod y Gweithdy Cyfieithu yw i ddarparu cymorth i olygwyr sy'n cyfieithu erthyglau o wicis eraill i'r Wicipedia Cymraeg. Mae'r gweithdy hefyd yn cydlynu'r gwaith o gyfieithu erthyglau, i roi cyfle i gyfieithwyr newydd i ymarfer eu sgiliau ac i roi gwybod i gyfieithwyr profiadol o'r gwaith sydd angen eu cywiro.

Sut i ymuno[golygu | golygu cod]

Ymunwch i dderbyn cymorth[golygu | golygu cod]

Os ydych yn ddefnyddiwr newydd, neu'n newydd i'r broses o gyfieithu, rhowch eich enw ar y rhestr aelodau fel myfyriwr. Dysgwch sut i gyfieithu trwy'r tiwtorial, gofynnwch cwestiynau, defnyddiwch adnoddau, a thrafodwch y gweithdy ar y negesfwrdd.

Ymunwch i ddarparu cymorth[golygu | golygu cod]

Os ydych yn ddefnyddiwr neu'n gyfieithydd profiadol sydd am helpu defnyddwyr eraill, rhowch eich enw ar y rhestr aelodau fel cynghorwr. Atebwch cwestiynau gan ddefnyddwyr eraill, darparwch adnoddau, cywirwch erthyglau, a thrafodwch y gweithdy ar y negesfwrdd.

Nodyn ar beiriannau cyfieithu[golygu | golygu cod]

Gall beiriannu cyfieithu megis Google Translate neu Bing Translator fod o gymorth wrth gyfieithu, ond ar y cyfan maent yn annibynadwy wrth drosi brawddegau a pharagraffau llawn ac yn gallu troi testun yn lol llwyr. Rydym yn rhoi'r nodyn {{Google Translate dim diolch}} ar dudalennau sgwrs cyfranwyr sydd yn amlwg yn defnyddio Google Translate i greu erthyglau.

Dolenni[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Hiwmor[golygu | golygu cod]