Cymorth:Gweithdy Cyfieithu/Tiwtorial

Oddi ar Wicipedia
Hafan y
Gweithdy
TiwtorialCwestiynauCeisiadauErthyglau sydd
angen eu cywiro
AdnoddauNodiadauNegesfwrddAelodau
Dyma diwtorial i ddysgu sut i gyfieithu erthyglau o Wicipediau eraill i'r Wicipedia Cymraeg. Os oes gennych gwestiwn nas atebir yn y tiwtorial hwn, gofynnwch cwestiynau. Os ydych yn dymuno cymorth wrth ichi gyfieithu tudalen benodol, rhowch gais yma.

Sylfeini cyfieithu[golygu | golygu cod]

  • Peidiwch â chyfieithu'n llythrennol. Gall cyfieithu'n llythrennol greu testun sy'n aneglur ac yn annaturiol ei iaith. Cofiwch hefyd gymryd gofal wrth gyfieithu idiomau ac ymadroddion.
  • Byddwch yn barod i ddileu ac ychwanegu at y testun. Wrth gyfieithu, peidiwch â bod ofn dileu deunydd diangen neu sydd heb ffynhonnell, ac ewch ati i ychwanegu at y testun, er enghraifft trwy ehangu ar esboniadau os yw'r testun gwreiddiol yn aneglur.

Arddull y Wicipedia Cymraeg[golygu | golygu cod]

Mae gan y Wicipedia Cymraeg bolisi arddull a chanllawiau iaith i'w dilyn. Gwnewch y gorau ohonynt!

Defnyddio adnoddau[golygu | golygu cod]

Mae gan y Gweithdy Cyfieithu restr o adnoddau, gan gynnwys geiriaduron a rhestrau termau. Ceir rhagor o adnoddau ar dudalen y canllawiau iaith.