Wici'r Holl Ddaear 2023, Cymru

Oddi ar Wicipedia

Cystadleuaeth ffotograffiaeth rhyngwladol a gynhelir gan brosiectau Wicimedia yw Wici'r Holl Ddaear (Wiki Loves Earth), gyda 50 o wledydd yn cystadlu. Daeth Cymru'n ail i'r Almaen yn y gystadleuaeth, gyda 52 o ddefnyddwyr yn uwchlwytho'u lluniau i Gomin Wicimedia. Mae'n rhaid i'r lluniau cael eu cymryd mewn mannau cadwraethol megis Parciau Cenedlaethol, Ardaloedd Harddwch Naturiol a Safle Gwyddonol Arbennig.

Yn 2023 am yr ail dro, ymunodd Llywodraeth Cymru fel un o gefnogwyr yr ymgyrch ac unwaith eto, trefnwyd yr ymgyrch gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Wikimedia UK.

Daeth Cymru'n ail yn y gystadleuaeth, allan o 50 o wledydd. Cyfrannwyd 5,026 o ffotograffau gyda llawer ohonynt yn awyrluniau a hynny gan 52 o gyfrannwyr - 22 yn fwy nag yn 2022. Mae ystadegau Cymru a gweddill y byd i'w gweld ar wikiloves.toolforge.org.

Enillwyr o Gymru, 2023[1][golygu | golygu cod]

  • Cyntaf: Defnyddiwr:RufusDavies
  • Ail: Defnyddiwr:Dwalad
  • Trydydd: Defnyddiwr:WelshCarebear
Rhai ffotograffau eraill o Gymru

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan y Prosiect ar Comin; adalwyd 5 Rhagfyr 2023.