Wasdale

Oddi ar Wicipedia
Wasdale
Mathplwyf sifil, dyffryn Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolBwrdeistref Copeland
Daearyddiaeth
SirCumbria
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau54.425°N 3.35°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04010484, E04002499 Edit this on Wikidata
Map

Dyffryn a phlwyf sifil[1] yn Cumbria, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Wasdale[2] (/ˈwɒzdeɪl/). Fe'i lleolir yn awdurdod unedol Cumberland yn rhan orllewinol Parc Cenedlaethol Ardal y Llynnoedd.

Mae Afon Irt yn llifo drwy'r dyffryn i'w haber yn Ravenglass. Mae Wast Water, y llyn dyfnaf yn Lloegr yn llenwi rhan fawr o lawr y dyffryn. Ar ochr dde-ddwyreiniol y llyn mae sgrïau serth o dan gopaon Whin Rigg ac Illgill Head. Ym mhen uchaf y dyffryn mae'r Great Gable a Scafell Pike, y copa uchaf yn Lloegr, sydd, ynghyd â Scafell, Kirk Fell a Yewbarrow, yn amgylchynu cymuned fach Wasdale Head.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. City Population; adalwyd 26 Mehefin 2019
  2. British Place Names; adalwyd 26 Mehefin 2019