Sgri

Oddi ar Wicipedia
Sgri
Daearyddiaeth

Y malurion rhydd sy'n cynnwys cerrig onglog a chlogfeini sy'n cronni ar ochr mynydd neu ar waelod clogwyn yw sgri neu talws. Mae sgri yn cael ei greu gan weithgarwch hindreulio ffisegol a chemegol ar wyneb craig dros gyfnod hir; mae'r darnau toredig yn mynd bendramwnwgl i lawr y llethr ac yn cwmpasu ardal eang.