Wang Wei
Wang Wei | |
---|---|
Ganwyd | 699 Yongji, Shanxi |
Bu farw | 759, Awst 761 Chang'an |
Dinasyddiaeth | Brenhinllin Tang |
Addysg | jinshi |
Galwedigaeth | arlunydd, bardd, ysgrifennwr, gwleidydd, cerddor, caligraffydd |
Swydd | gweinidog |
Arddull | portread |
Cartre'r teulu | Hedong County |
Tad | Wang Chulian |
Llinach | Wang clan of Taiyuan |
- Erthygl am y bardd enwog yw hon. Gweler hefyd Wang Wei (gwahaniaethu).
Bardd, arlunydd, cerddor a gwladweinydd o Tsieina yng nghyfnod Brenhinllin Tang a elwir weithiau "y Bwdha-Fardd" oedd Wang Wei (Tsieineeg 王維 Wáng Wéi) (701 – 761).
Ei fywyd
[golygu | golygu cod]O dras uchelwrol, basiodd ei arholiadau ar gyfer y Gwasanaeth Sifil Ymherodrol yn 721 a chafodd yrfa lwyddiannus gan ymddyrchafu i fod yn Ganghellor yn 758. Yn ystod Gwrthyfel An Lushan osgodd gwrdd ag asiantau'r gwrthryfelwyr trwy esgus ei fod yn fyddar. Treuliodd ddeng mlynedd yn astudio dan y meistr Chán Daoguang. Ar ôl marwolaeth ei wraig yn 730, sefydlodd fynachlog ar ran o'i ystad ac aeth yno i ymddeol.
Fe'i cofir yn bennaf am ei gerddi sy'n darlunio golygfeydd tawel o ddyfroedd a niwl heb lawer o le ynddynt i bobl, fel yn achos llawer o baentiadau'r cyfnod.
Does dim un o'i baentiadau gwreiddiol wedi goroesi, ond ceir copïau a briodolir iddo, yn enwedig paetniadau tirwedd traddodiadol. Cafodd ddylanwad ar Ysgol Ddeheuol paentiadau tirwedd Tsieina, a nodweddir gan strociau brwsh cryf a golchiadau inc ysgafn.
Enghraifft o'i ganu
[golygu | golygu cod]Mae'r gerdd fer 'Yn Nyfnderoedd y Mynydd Anial' yn un o ddwy o gerddi Wang Wei a gyfieithwyd i'r Gymraeg gan Cedric Maby:
- Yn nyfnderoedd y mynydd anial,
- Byth ni ddynesa neb,
- Ond unwaith yn y pedwar amser,
- Fel llef o hirbell,
- Bydd pelydrau trwy'r goedwig gethin
- A thywynnu eto ar y cysgodog fwsogl.[1]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cedric Maby, Y Cocatŵ Coch, tud. 48.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Ceir dwy o gerddi Wei Wan wedi'u cyfieithu i'r Gymraeg yn y gyfrol:
- Cecil Maby, Y Cocatŵ Coch: Blodeugerdd o gerddi byrion o'r Tseinaeg (Gwasg Prifysgol Cymru, ar ran yr Academi Gymreig, 1987)
Ceir sawl cyfieithiad Saesneg, yn cynnwys
- Wang Wei: Poems, gol. G. W. Robinson (Harmondsworth: Penguin Books, 1973).