Vladikavkaz
| Math | tref neu ddinas |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Sergo Ordzhonikidze, Sergo Ordzhonikidze, Cawcasws, Dzaug Bugulov |
| Poblogaeth | 293,287 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Boris Albegov |
| Cylchfa amser | UTC+03:00 |
| Gefeilldref/i | |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Oseteg, Rwseg |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 291 km² |
| Uwch y môr | 692 metr |
| Cyfesurynnau | 43.04°N 44.6775°E |
| Cod post | 362000–362999 |
| Pennaeth y Llywodraeth | Boris Albegov |
![]() | |
Prifddinas gweriniaeth Rwsaidd Gogledd Osetia Vladikavkaz (Rwseg: Владикавказ, Oseteg: Дзæуджыхъæу; Dzæoedzjychæoe). Saif ar afon Terek, rhyw 40 km o'r ffin â Georgia, ac wrth droed Mynyddoedd y Cawcasws. Hi yw dinas bwysicaf ardal Gogledd y Cawcasws. Roedd y boblogaeth yn 2005 tua 317,370, 45% o holl boblogaeth Gogledd Osetia.
Sefydlwyd Vladikavkaz yn 1784 ar orchymyn Grigori Potemkin, fel caer gerllaw pentref Osetaidd. Yn 1799 agorwyd Ffordd Filwrol Georgia, trwy'r mynyddoedd o Vladikavkaz i Tbilisi. Daeth yn ddinas yn 1861. Yn 1931 newidiwyd ei henw i Ordzjonikidze, ar ôl y Bolshefic Georgaidd Grigol Ordzjonikidze; o 1944 hyd 1954 gelwid hi yn Dzaoedzjikaoe, yna o 1954 hyd 1990 yn Ordzjonikidze eto. Yn 1990, newidiwyd ei henw yn ôl i Vladikavkaz.
