Afon Terek
Gwedd
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Mtskheta-Mtianeti, Kabardino-Balkaria, Gogledd Osetia, Tsietsnia, Dagestan |
Gwlad | Georgia, Rwsia |
Cyfesurynnau | 42.6215°N 44.2474°E, 43.5953°N 47.5597°E |
Tarddiad | Mount Kazbek |
Aber | Môr Caspia |
Llednentydd | Afon Malka, Afon Urukh, Afon Ardon, Afon Sunzha, Ursdon, Lesken, Kistinka (river), Argudan, Kuyan, Demenyuk, Armkhi, Afon Kambileyevka, Q6565501, Kurp, Chkheri, Akbashsky Canal |
Dalgylch | 43,200 cilometr sgwâr |
Hyd | 623 cilometr |
Arllwysiad | 305 metr ciwbic yr eiliad |
Afon sy'n llifo trwy Georgia a Rwsia i ymuno â Môr Caspia yw afon Terek (Georgeg: Tergi, Tsietsieg: Terk). Hi yw'r ail-fwyaf o'r afonydd sy'n tarddu ym Mynyddoedd y Cawcasws, ac mae ei hyd yn 623 km.
Mae'n tarddu mewn rhewlif yn Georgia, ym mynyddoedd y Cawcasws yn agos at y ffin â Rwsia. Mae'n llifo tua'r gogledd i mewn i Rwsia. Yn Rwsia, mae'n llifo trwy bedair gweriniaeth ymreolaethol, Gogledd Ossetia, Kabardino-Balkaria, Gogledd Ossetia eto, Tsietsnia a Dagestan. Y ddinas fwyaf ar yr afon yw Vladikavkaz, prifddinas Gogledd Osetia, a saif lle mae'r afon yn cyrraedd y gwastadedd.