Victoria Azarenka

Oddi ar Wicipedia
Victoria Azarenka
Ganwyd31 Gorffennaf 1989 Edit this on Wikidata
Minsk Edit this on Wikidata
Man preswylMonte-Carlo Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBelarws Edit this on Wikidata
Galwedigaethchwaraewr tenis Edit this on Wikidata
Taldra183 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau70 cilogram Edit this on Wikidata
PartnerSergei Bubka Edit this on Wikidata
Gwobr/auHonored Master of Sports of the Republic of Belarus, Order of Honor Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auBelarus Billie Jean King Cup team Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonBelarws Edit this on Wikidata

Chwaraewraig tenis o Felarws yw Victória Fyódorovna Azárenka (Belarwseg: Вікторыя Фёдараўна Азаранка; ganwyd 31 Gorffennaf 1989). Hi yw'r unig chwaraewr neu chwaraewraig tenis o Felarws i ennill un o gystadlaethau senglau'r Gamp Lawn, a hynny ym Mhencampwriaeth Agored Awstralia yn 2012 a 2013.

Ganwyd ym Minsk yn yr Undeb Sofietaidd. Dechreuodd chwarae tenis yn 7 oed. Dechreuodd chwarae'n broffesiynol ar Gylchdaith yr ITF yn 2003, a symudodd i Scottsdale, Arizona, i gael ei hyfforddi. Cafodd ei dewis i chwarae ar dîm Belarws yng Nghwpan y Ffed yn 2005 (ac eto yn 2007, 2009–11, a 2015). Cyrhaeddodd rhestr y 100 uchaf yn nhymor 2006, y 30 uchaf yn 2007, a'r 20 uchaf yn 2008. Enillodd y gystadleuaeth parau cymysg gyda Max Mirnyi ym Mhencampwriaeth Agored UDA yn 2007, a chyda Bob Bryan yn Roland Garros yn 2008. Enillodd gystadlaethau Brisbane, Memphis a Miami yn 2009, gan orffen y tymor ar safle 7 yn y byd. Enillodd yn Stanford a Moscfa yn 2010, a Miami, Marbella a Lwcsembwrg yn 2011 gan gyrraedd safle 3 ar ddiwedd y tymor hwnnw.

Enillodd Bencampwriaeth Agored Awstralia yn Ionawr 2012, gan neidio o safle 3 i 1.[1] Yn ogystal â chipio'i thlws gyntaf o'r Gamp Lawn, enillodd yn Sydney, Doha, Indian Wells, Beijing a Linz y flwyddyn honno. Enillodd Bencapwriaeth Agored Awstralia eilwaith,[2] a hefyd twrnameintiau Doha a Cincinnati, yn 2013. Cyrhaeddodd rownd derfynol Pencampwriaeth Agored UDA yn 2012 a 2013, a rowndiau cynderfynol Wimbledon yn 2011 a 2012 a Roland Garros yn 2013. Yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2012 enillodd fedal efydd yng nghystadleuaeth senglau'r menywod a'r fedal aur, gyda Max Mirnyi, yng nghystadleuaeth y parau cymysg.

Cafodd ei tharo gan anafiadau yn ystod tymor 2014, a ni enillodd unrhyw gystadlaethau'r flwyddyn honno, nac ychwaith yn 2015. Syrthiodd i safle 32 ar ddiwedd 2014, ond dringodd yn ôl i 22 flwyddyn yn ddiweddarach. Dechreuodd wella'i chwarae tua diwedd y tymor wrth iddi gyrraedd y rownd gogynderfynol ym Mhencampwriaeth Agored UDA.[3] Wedi iddi ennill yn Brisbane, Indian Wells a Miami ar ddechrau 2016,[4] cyrhaeddodd safle 6 yn y byd. Cafodd ei tharo gan anafiadau i'w chefn a'i phen-glin yng nghanol y tymor, ac o ganlyniad gadawodd ei gornest gyntaf yn Roland Garros a ni chystadleuodd yn Wimbledon.[5] Ym mis Gorffennaf 2016 cyhoeddodd ei bod yn feichiog ac felly am gymryd saib yn ei gyrfa nes ar ôl yr enedigaeth.[6]

Mae Azarenka'n chwarae gyda'i llaw dde, ac yn hoff o ddefnyddio trawiad gwrthlaw deulaw. Mae'n tueddu i aros ar y llinell fas a chwarae rali gyflym.[7] Chwaraeir orau ar gyrtiau caled a chlai.[8]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Victoria Azarenka routs Sharapova, ESPN (29 Ionawr 2012). Adalwyd 8 Awst 2016.
  2. (Saesneg) It's a Rough-and-Tumble Path to a Title Repeat for Azarenka, The New York Times (26 Ionawr 2013). Adalwyd 8 Awst 2016.
  3. (Saesneg) Injury-plagued Victoria Azarenka shows glimpses of old form at US Open, The Guardian (7 Medi 2015). Adalwyd 8 Awst 2016.
  4. (Saesneg) Victoria Azarenka crushes Svetlana Kuznetsova for third Miami Open title, The Guardian (3 Ebrill 2016). Adalwyd 8 Awst 2016.
  5. (Saesneg) Azarenka withdraws from Wimbledon with knee injury suffered at Roland Garros Archifwyd 2016-07-27 yn y Peiriant Wayback., TENNIS.com (23 Mehefin 2016). Adalwyd 8 Awst 2016.
  6. (Saesneg) Azarenka announces she's pregnant, plans to resume career after baby is born Archifwyd 2016-07-31 yn y Peiriant Wayback., TENNIS.com (15 Gorffennaf 2016). Adalwyd 8 Awst 2016.
  7. (Saesneg) Player Program: Victoria Azarenka Archifwyd 2014-02-19 yn y Peiriant Wayback., Team Fenom. Adalwyd 8 Awst 2016.
  8. (Saesneg) Proffil Victoria Azarenka Archifwyd 2012-06-02 yn y Peiriant Wayback. ar wefan yr ITF. Adalwyd 8 Awst 2016.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: