Vera Panova
Vera Panova | |
---|---|
Ganwyd | 7 Mawrth 1905 (yn y Calendr Iwliaidd) Rostov-ar-Ddon |
Bu farw | 3 Mawrth 1973 St Petersburg |
Dinasyddiaeth | Rwsia |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, dramodydd, nofelydd, sgriptiwr, llenor, rhyddieithwr |
Adnabyddus am | Seryozha |
Arddull | nofel, nofel fer, drama |
Priod | Boris Vakhtin, David Dar |
Plant | Boris Vakhtine, Yuri Vakhtin |
Gwobr/au | Gwobr Wladwriaeth Stalin, gradd 1af, Urdd Baner Coch y Llafur, Medal "Am Waith Arbennig yn Rhtfel Mawr Gwladgarol 1941–1945", Stalin Prize, 2nd degree, Stalin Prize, 3rd degree, Medal Jiwbili "I Goffáu 100fed Pen-blwydd Geni Vladimir Ilyich Lenin" (10 gair / words), Medal "In Commemoration of the 250th Anniversary of Leningrad" |
llofnod | |
Nofelydd o'r Undeb Sofietaidd oedd Vera Panova (Rwsieg: Ве́ра Фёдоровна Пано́ва; 7 Mawrth 1905 - 3 Mawrth 1973) sydd hefyd yn cael ei chofio fel dramodydd a sgriptiwr.
Ganed Vera i deulu o fasnachwr tlawd ar 7 Mawrth 1905, ond daeth ei thad yn hwyr yn ei fywyd yn gyfrifydd; fe'i ganed yn Rostov-on-Don, Rwsia. Adeiladodd ei thad, Fyodor Ivanovich Panov, ganŵod a chychod hwylio fel diddordeb, a sefydlodd ddau glwb hwylio yn Rostov.[1] Pan oedd Vera'n bump oed, boddodd ei thad yn Afon Don a bu'n rhaid i'w mam ddechrau gweithio fel gwerthwr. Cafodd ei haddysgu gan ffrind i'r teulu, hen athrawes ysgol o'r enw Anna Prozorovskaya. Talodd Vera dernged i Anna am feithrin ynddi ei brwdfrydedd mewn darllen. Cafodd ddwy flynedd, wedyn, yn y gymnasiwm lleol, ond gadawodd cyn gorffen ei chwrs oherwydd prinder arian.[1][2][3][4][5]
Roedd ei hawduron cynnar yn cynnwys Alexander Pushkin, Nikolay Gogol, ac Ivan Turgenev a darllenodd nifer o werslyfrau ar wyddoniaeth, daearyddiaeth a hanes drwy hunan-addysgu.[6]
Yn 17 oed dechreuodd weithio fel newyddiadurwr ar y papur newydd lleol, Trudovoy Don, gan gyhoeddi erthyglau dan y llysenw V. Staroselskaya a fenthyciodd gan ei gŵr cyntaf Arseny Staroselsky y priododd hi ym 1925 a'i ysgaru 2 flynedd yn ddiweddarach.
Bu farw yn St Petersburg ac fe'i claddwyd ym Mynwent yn Komarovo.
Yn 1933 dechreuodd ysgrifennu dramâu. Yn 1935, cafodd ail ŵr, newyddiadurwr Komsomolskaya Pravda, Boris Vakhtin, ei arestio a'i garcharu ar Solovki lle bu farw (union ddyddiad y farwolaeth, y tri degau diweddarach mae'n debyg). Caniateir i'r Gulag aros yn Boris, a ddisgrifiodd yn ei stori Svidanie (Y Cyfarfod).
Yn 1935, cafodd ail ŵr, newyddiadurwr gyda'r Komsomolskaya Pravda, sef Boris Vakhtin, ei arestio a'i garcharu yn Solovki lle bu farw. Caniatawyd iddi un cyfarfod yn unig gydag ef, yn y Gulag, a disgrifiodd y cyfarfod hwn yn ei stori Svidanie ('Y Cyfarfod').
Y Rhyfel a sgwennu
[golygu | golygu cod]O 1940 roedd hi'n byw yn Leningrad. Gwelwyd y Natsïaid yn ennill tir ar Ffrynt Leningrad a theithiodd i Tsarskoe Selo. Rhoddwyd hi a'i merch mewn gwersyll crynhoi (concentration camp) ger Pskov, ond llwyddon nhw i ddianc i Narva, lle buon nhw'n byw'n anghyfreithlon mewn synagog wedi'i ddinistrio.
Symudodd i bentref Shishaki i aros gyda pherthnasau. Yno dechreuodd ei gwaith cyntaf, sef y dramâu Ivan Kosogor (1939) ac Yn yr hen Fosgo (1940). Er i'r ddwy ddrama yma ennill gwobrau, teimlai Vera fod ffurf y ddrama'n yn ei chyfyngu, na allai ffitio popeth i mewn i fframwaith mor llym. Teimlai y gallai weithio gyda mwy o ryddid gyda'r nofel.[6]
Roedd Panova'n dipyn o arwres ymysg ysgrifenwyr Rwsiaidd. Yng Nghyngrair yr Awduron yn 1954 ac eto yn 1959 etholwyd hi yn aelod o Undeb Presidium Wduron Sofietaidd. Derbyniodd Urdd y Faner Goch dros Lafur ddwywaith (1955, 1965). Fel awdur sefydledig caniatawyd iddi deithio i Loegr, yr Alban a'r Eidal, ac yn 1960 aeth ar daith o amgylch yr Unol Daleithiau.
Aelodaeth
[golygu | golygu cod]Bu'n aelod o Undeb Awduron yr USSR am rai blynyddoedd. [7]
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Wladwriaeth Stalin, gradd 1af (1947), Urdd Baner Coch y Llafur (1965), Medal "Am Waith Arbennig yn Rhtfel Mawr Gwladgarol 1941–1945", Stalin Prize, 2nd degree (1948), Stalin Prize, 3rd degree (1950), Medal Jiwbili "I Goffáu 100fed Pen-blwydd Geni Vladimir Ilyich Lenin" (10 gair / words), Medal "In Commemoration of the 250th Anniversary of Leningrad" .
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Panova, Vera (1976). Vera Panova, Selected Works. Moscow: Progress Publishers. tt. 7–14. ISBN 0-8285-1018-0.
- ↑ Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Dyddiad geni: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Dyddiad marw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Wera Fjodorowna Panowa". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. https://cs.isabart.org/person/134825. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2021. dynodwr abART (person): 134825. "Wera Panowa". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ 6.0 6.1 Alexandrova, Vera (1971). A History of Soviet Literature. Greenwood Press Reprint. ISBN 0-8371-6114-2.
- ↑ Galwedigaeth: https://cs.isabart.org/person/134825. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2021. dynodwr abART (person): 134825. https://cs.isabart.org/person/134825. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2021. dynodwr abART (person): 134825. https://cs.isabart.org/person/134825. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2021. dynodwr abART (person): 134825. https://cs.isabart.org/person/134825. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2021. dynodwr abART (person): 134825.