Uwcheglwys San Bened
Jump to navigation
Jump to search
![]() | |
Math | eglwys ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Bened o Nursia ![]() |
Ardal weinyddol | Dinas Llundain |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.5117°N 0.0993°W ![]() |
Cod OS | TQ3200080907 ![]() |
![]() | |
Arddull pensaernïol | Baróc Seisnig ![]() |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I ![]() |
Cysegrwyd i | Bened o Nursia ![]() |
Manylion | |
Esgobaeth | Esgobaeth Llundain ![]() |
Uwcheglwys San Bened yw'r eglwys Gymreig yn Llundain (yn swyddogol, Eglwys Gymreig brif ddinesig Esgobaeth Llundain). Lleolir hi yn Ninas Llundain, nid ymhell o Eglwys Gadeiriol Sant Paul a Phont y Mileniwm. Roedd yn un o'r eglwysi a'u hail-godwyd gan y pensaer o fry Syr Christopher Wren wedi Tân Mawr Llundain ym 1666. Mae'r adeilad presennol yn dyddio o 1677 i 1683 ac mae dylanwad o'r Iseldiroedd ar ei phensaernïaeth. Claddwyd y pensaer Inigo Jones, a oedd o dras Gymreig, yn San Bened ym 1652 ond ni ddaeth yn eglwys Cymry Llundain hyd nes y 19g. Cynhelir gwasanaethau yn yr iaith Gymraeg yn rheolaidd yno.