Twyn Llech

Oddi ar Wicipedia
Twyn Llech
Mathmynydd, copa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodolParc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Uwch y môr703.6 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.0083°N 3.0847°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO2552335390 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd155 metr Edit this on Wikidata
Cyfnod daearegolDefonaidd Edit this on Wikidata
Rhiant gopaWaun Fach Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddMynydd Du Edit this on Wikidata
Map
DeunyddTywodfaen Edit this on Wikidata
Gweler hefyd Mynydd Du (Sir Gaerfyrddin) a Mynydd Du (Mynwy).

Mynydd yng nghadwyn y Mynydd Du, Powys, de-ddwyrain Cymru, yw Twyn Llech (Saesneg: Black Mountain).[1] Dyma'r unig fryn sydd â'i gopa'n gorwedd yn union ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, gyda'r mynydd yn cael ei rannu rhwng Powys a Swydd Henffordd. Ei uchder yw 703 m (2,306 tr).

Rhed Clawdd Offa a'r llwybr pellter hir sy'n ei ddilyn ar hyd crib Twyn Llech, o'r de i'r gogledd, tra bo llwybr arall, mwy syrth, yn dringo o'r hostel ieuenctid yn Nyffryn Ewyas i'r gorllewin. Ni nodir y copa gan bwynt trigonometrig. Waun Fach yw'r bryn agosaf.

Er bod copaon uwch yn agos i'r mynydd yng Nghymru, Twyn Llech yw'r pwynt uchaf yn Lloegr i'r de o'r Yorkshire Dales.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Myrddyn Phillips, 'Twyn Llech (SO 255 353)'; gwelwyd 4 Medi 2018.
Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.