Tro yn Llydaw
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Owen Morgan Edwards |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1890 |
Prif bwnc | Llydaw |
Mae Tro yn Llydaw yn deithlyfr gan Owen Morgan Edwards sydd yn drafod daith a wnaed ganddo i Lydaw.
Dyddiad y daith a'r llyfr
[golygu | golygu cod]Does dim dyddiad yn y llyfr i ddweud pa bryd aeth O M Edwards ar ei daith i Lydaw, na pha bryd y cyhoeddwyd y llyfr gyntaf. Yn ôl tystiolaeth a gyflwynwyd mewn erthygl gan Thomas Jones yn Cylchgrawn y Gymdeithas Lyfryddol Gymreig Cyfrol 9, Rhif 2, Gorffennaf 1959 Dyddiadau Cyhoeddi "O'r Bala I Geneva", "Tro Yn Yr Eidal" A "Tro Yn Llydaw", mae'n debyg bod y daith ym mis Awst 1889, a bod y llyfr wedi ei gyhoeddi gyntaf ym mis Ionawr 1890. [1] Cyhoeddwyd y llyfr gyntaf gan gwmni E W Evans Dolgellau. Cafwyd ail argraffiad gan Hughes a'i Fab, Wrecsam ym 1921.
Ifor Bowen
[golygu | golygu cod]Yn ôl y llyfr cydymaith O. M Edwards ar y daith oedd cyfaill iddo o'r enw Ifor Bowen. Mae'r llyfr yn nodi bod Owen ac "Ifor" wedi ymweld â'r Parch W. Jenkyn Jones Cenhadwr Y Methodistiaid Calfinaidd i Lydaw. Mewn erthygl yn Y Goleuad ym 1890[2] mae'r cenhadwr yn ddweud
Cefais fy llonni yn fawr hefyd yr haf diweddaf gan ymweliad y cyfaill dirodres o Rydychen a Llanuwchllyn, a'i frawd. Nis gallasant aros ond ychydig iawn o amser, ond gwnaethom y gorau o'r amser hwnnw
Nid oes amheuaeth mae ei frawd John Morgan Edwards, prifathro ysgol Treffynnon wedyn, oedd ei gydymaith Ifor Bowen
Beirniadaeth o sectyddiaeth
[golygu | golygu cod]Er ei fod yn cael ei gofio yn bennaf fel ysgolhaig, athro, arolygwr ysgolion ac awdur, roedd O. M. Edwards hefyd yn Weinidog a ordeiniwyd gan y Methodistiaid Calfinaidd (Yng nghyfrifiad 1881 ei alwedigaeth yw Minister Calvinistic Methodist Body[3] ). Yn ei ragymadrodd i'r cyhoeddiad cyntaf o'r llyfr mae'n mynegi ei siom o ddisgwyl drych o Gymru yn Llydaw ond yn canfod:
MEDDYLIAIS, cyn cychwyn i Lydaw, y cawn y wlad honno'n llai dieithr imi nag un wlad arall dan haul, ond fy ngwlad fy hun, oherwydd yr un bobl yw'r Llydawiaid a'r Cymry, a'r un yw eu hiaith. Ond, wedi byw ychydig o wythnosau ymysg y Llydawiaid, a rhoddi tro amgylch ogylch eu gwlad, teimlais fod eu tebygolrwydd mawr i'r Cymry yn rhoddi rhyw ddieithrwch rhyfedd ar y bobl hyn, — ar eu hwynebau, ar eu harferion, ar eu hiaith.
"Ail Gymru ydyw Llydaw." Ie, ond gyda gwahaniaeth mawr.
Cymru heb ei Diwygiad ydyw Llydaw. Nid ydyw'r hen arferion ofergoelus, gyda'u prydferthwch dieithr, wedi eu halltudio o'r wlad; nid oes yno yr un seiat i ddinistrio "difyr-gampau diniwed y werin, ac i droi crefydd lawen y bobl yn rhagrith sur." Eithaf gwir, ac y mae yn Llydaw anfoesoldeb y buasai meddwon Cymru yn gresynu ato.
Mewn cyfnod pan oedd y Gwledydd Celtaidd yn ceisio cyd feithrin a chydweithio ar gynnal ac adfer eu cyd diwylliannau bu feirniadaeth hallt ar y llyfr gan y Llydawyr
Mae'r rhagymadrodd i gyhoeddiad 1921 gan Hughes a'i Fab yn cynnwys ymwadiad:
NODYN GOLYGYDDOL. Gwyddis yr ysgrifennwyd y llyfr hwn a'r awdwr yn fachgen ifanc. (roedd yn fachgen ifanc 29 mlwydd oed) Diau pe bai wedi ei ysgrifennu yn hwyrach yn ei fywyd y buasai ambell i beth ynddo yn wahanol. Ceir ynddo Llydaw fel ei gwelid gan Brotestant, eto gan un oedd yn ei charu. Dywed y Llydawyr Catholig nad ydyw y llyfr yn rhoddi eu crefydd yn yr olwg briodol, ac felly nad ydyw yn gwneud cyfiawnder a hwy. Dylai'r Cymry sydd yn cymeryd diddordeb yn eu perthynasau agos, y Llydawyr, geisio deall y ddwy olwg ar y wlad, ac wedi iddynt ddarllen "Tro yn Llydaw," ddarllen dau bamffled y Bonwr Pierre Mocaër, — "LLYDAW A CHYMRU," a "TUEDDIADAU LLENYDDIAETH LLYDAW"; Cyhoeddwr: A. LAJAT, 38 Rue des Fontaines, Morlaix, Llydaw. Dylai y gwledydd Celtaidd dynnu yn agosach at ei gilydd, dylem gymeryd mwy o ddiddordeb yn ein gilydd.
Penodau
[golygu | golygu cod]Mae gan y llyfr 21 o benodau
I. — MYND I'R MÔR
II. — YNYSOEDD DEDWYDD
III. — DINAS MALO
IV. — CRAIG Y BEDD
V. — TAITH AR DRAED
VI. — GWESTY LLYDEWIG
VII. — IOAN Y GYRRWR
VIII. — LANNION
IX. — LLYDAWIAID YN ADDOLI
X. — EGLWYS AR FRYN
XI.— MIN NOS SABOTH
XII. — YNYS ARTHUR
XIII. — MORLAIX
XIV. — DROS Y MYNYDDOEDD DUON
XV.— GYDA'R CENHADWR
XVI. — YR EGLWYS GAM
XVII. — Y DDINAS FODDWYD
XVIII. — GWLAD Y BEDDAU
XIX.— DINAS AR FRYN
XX. — TROI ADRE
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Thomas Cylchgrawn y Gymdeithas Lyfryddol Gymreig Cyfrol 9, Rhif 2, Gorffennaf 1959 Dyddiadau Cyhoeddi "O'r Bala I Geneva", "Tro Yn Yr Eidal" A "Tro Yn Llydaw"
- ↑ Y Goleuad 9 Ionawr, 1890, t. 11
- ↑ Cyfrifiad 1881, Meyrick House, Meyrick Street, Dolgellau. RG 11/5546