Tripoli (Libanus)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Tripoli, Libanus)
Jump to navigation Jump to search
Tripoli
The skyline of Tripoli, Lebanon.jpg
Mathdinas, ail ddinas fwyaf Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iLarnaca Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirNorth Governorate, Tripoli District Edit this on Wikidata
GwladBaner Libanus Libanus
Arwynebedd14 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr222 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau34.43°N 35.83°E Edit this on Wikidata

Tripoli (Arabeg: طرابلس Ṭrāblos neu Ṭrēblos, yn lleol Ṭrōbles, Groeg: Τρίπολις, Tripolis) yw ail ddinas Libanus o ran poblogaeth, gyda tua 500,000 o breswylwyr. 80% o'r boblogaeth yn sunni mwslemaidd. Saif tua 85 km i'r gogledd o Beirut.

Mar Tripoli yn hen ddinas Ffenicaidd, gyda thystiolaeth am bobl yn byw ar y safle yn 1400 CC. Arferai fod yn ganolwynt cynghrair oedd yn cynnwys Tyrus, Sidon ac Arados, ac felly y cafodd ei henw, sy'n golygu "y ddinas driphlyg". Gerllaw mae dinas El Mina, sy'n cael ei chysylltu a Tripoli fel Tripoli Fwyaf.

Cipiwyd y ddinas gan y Croesgadwyr yn 1109, pan losgwyd llyfrgell enwog Tripoli, y Dar al-Ilm. Cipiwyd hi yn ôl gan fyddinoedd Islam yn 1289, a dinistrwyd hen ran y ddinas.

Dechreuodd gwrthdaro Gogledd Libanus 2007 o ganlyniad i ymladd rhwng Fatah al-Islam, mudiad milwriaethus Islamiaidd, a Lluoedd Arfog Libanus ar 20 Mai, 2007 yn Nahr al-Bared, gwersyll ffoaduriaid Palesteinaidd ger Tripoli.

Flag of Lebanon.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Libanus. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.