Triagl melyn

Oddi ar Wicipedia
Tun o Lyle's Golden Syrup.

Triagl trwchus, gludiog a melyn-aur ei liw ac â blas melys iawn yw triagl melyn. Gwneir drwy goethi siwgr o'r gansen. Gellir ei daenu ar dost, bara, myffins, a chramwythion neu ei arllwys dros crempogau ac hufen iâ. Defnyddir fel melysydd mewn cymysgeddau teisenni megis cacen goch, bisgedi, a phwdinau megis tarten driog, ac i wneud sawsiau melys megis menyn caramel a siocled.[1]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Good Housekeeping Food Encyclopedia (Llundain, Collins & Brown, 2009), t. 410.