Trevor Baylis

Oddi ar Wicipedia
Trevor Baylis
Ganwyd13 Mai 1937 Edit this on Wikidata
Kilburn Edit this on Wikidata
Bu farw5 Mawrth 2018 Edit this on Wikidata
Eel Pie Island Edit this on Wikidata
Man preswylTwickenham Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • West London College Edit this on Wikidata
Galwedigaethnofiwr, dyfeisiwr, perfformiwr stỳnt, dyfeisiwr patent, person busnes Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.trevorbaylisbrands.com/ Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Dyfeisydd Seisnig oedd Trevor Graham Baylis (13 Mai 1937 – 5 Mawrth 2018) a ddyfeisiodd y radio weindio.

Plentyndod[golygu | golygu cod]

Ganwyd yn Kilburn, yng ngogledd-orllewin Llundain, a symudodd ei deulu i ardal Southall pan oedd yn 2 oed. Pan oedd yn fachgen, cafodd ei gam-drin gan gurad Anglicanaidd, ac o ganlyniad i'r profiad hwn fe gollodd ei ffydd.[1] Ni chafodd marciau da yn ei wersi, ond roedd yn hoff iawn o adeiladau modelau a gwneud arbrofion mecanyddol. Gadawodd yr ysgol yn 15 oed heb yr un cymhwyster. Roedd yn nofiwr da a bu bron iddo gael ei gynnwys yn nhîm Prydain Fawr ar gyfer Ngemau Olympaidd 1956.[2]

Gyrfa gynnar[golygu | golygu cod]

Cafodd ei swydd gyntaf mewn labordy mecaneg pridd yn Southall ac astudiodd cyrsiau peirianneg. Treuliodd ei wasanaeth cenedlaethol fel hyfforddwr ymarfer corff yng Nghatrawd Frenhinol Sussex. Gweithiodd i Purley Pools, cwmni pyllau nofio, am 8 mlynedd, ac ym 1964 fe gynhyrchodd system clorineiddio newydd. Cafodd waith hefyd yn gwneud styntiau gyda'r syrcas ym Merlin. Gyda'r arian fe enillodd yn yr Almaen, dychwelodd i Loegr i sefydlu busnes ei hunan o'r enw Shotline Pools.[1]

Orange Aids[golygu | golygu cod]

Datblygodd mwy na 200 o ddyfeisiau ar gyfer pobl anabl dan yr enw Orange Aids, er enghraifft siswrn ac agorwyr poteli ar gyfer pobl ag un llaw. Er yr oedd ei gynhyrchion yn llwyddiannus, fe gafodd ei siomi gan ei brofiadau o'r broses batent a chwmnïau eraill yn copïo ei syniadau.[2] O fewn 18 mis o chwilio am gwmni yn Ninas Llundain i wneuthuro'r Orange Aids, cafodd y dyfeisiau eu hail-enwi heb fawr o wobr i Baylis. Yn ddiweddarach fe ddywedodd, "They had done me up like the proverbial kipper, eaten me for breakfast and spat me out, bones and all".[1]

Y radio weindio[golygu | golygu cod]

Cafodd y syniad am ei radio ym 1991, wrth iddo wylio rhaglen deledu am HIV/AIDS yn Affrica a'r angen i ddarlledu gwybodaeth am yr afiechyd i'r bobl. Wedi ei ysbrydoli gan yr hen gramoffon a gafodd ei weindio yn debyg i gloc, fe aeth i'w weithdy a gynhyrchodd prototeip o fewn hanner awr.[2] Ei weledigaeth oedd i'r radio gael ei ddefnyddio yn y rhannau o Affrica sydd yn bell o gyflenwad trydan a dim siopau sydd yn gwerthu batrïau. Derbyniodd batent, ond methodd i werthu'r ddyfais i'r un gwneuthurwr. Daeth sylw'r cyhoedd i'w radio ym 1994 pan ymddangosodd Baylis ar y rhaglen deledu Tomorrow's World. Enillodd wobrau am ei ddyluniad, a daeth y radio i'r farchnad ym 1997. Ar un adeg, cafodd 120,000 eu gwerthu y mis.[1] Methodd Baylis i gadw rheolaeth dros ei ddyluniad, a chafodd brofiad drwg â'r cwmni o Dde Affrica oedd yn cynhyrchu'r radio.[2]

Cafodd ei urddo'n OBE ym 1997, a CBE yn 2015. Derbyniodd sawl gradd er anrhydedd, a medalau aur ac arian o Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol. Cyhoeddodd ei hunangofiant, Clock This, ym 1999. Sefydlodd Trevor Baylis Brands i gynorthwyo dyfeiswyr eraill i droi eu syniadau yn gynhyrchion. Gweithiodd ar ambell syniad arall ei hunan, gan gynnwys esgid sydd yn creu trydan er mwyn gwefru ffôn symudol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) Dennis Barker, "Trevor Baylis obituary", The Guardian (5 Mawrth 2018). Adalwyd ar 9 Mawrth 2018.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 (Saesneg) "Obituary:Trevor Baylis", BBC (6 Mawrth 2018). Adalwyd ar 9 Mawrth 2018.