Torra di Fautea

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Torra di Fautea
Corse SteLucie 27.jpg
Math Tyrau Genoa yng Nghorsica Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Zonza Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Corsica Corsica Baner Ffrainc Ffrainc
Cyfesurynnau 41.7133°N 9.40583°E Edit this on Wikidata
Manylion
Statws treftadaeth heneb hanesyddol cofrestredig Edit this on Wikidata

Mae Tŵr Fautea (Corseg:Torra di Fautea Ffrangeg: Tour de Fautea) yn dŵr Genoa adfeiliedig wedi ei leoli yn commune Zonza (Corse-du-Sud) ar arfordir dwyreiniol ynys the French island of Corsica. Mae'r tŵr yn sefyll ar uchder o 32 metr (105 troedfedd) ar y Punta di Fautea.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd yn un o gyfres o amddiffynfeydd arfordirol a adeiladwyd gan Weriniaeth Genoa rhwng 1530 a thua 1620 i atal ymosodiadau gan fôr-ladron Barbari. Fe'i hadeiladwyd cyn 1601, dyddiad sy'n ymddangos ar ddogfen sy'n cofnodi taliad a wnaed i un o'r milwyr oedd yn gyfrifol am warchod y twr. Ymosodwyd ar y tŵr a'i losgi ym 1650 gan Ymerodraeth yr Otomaniaid. Fe'i hadferwyd rhwng 1988 a 1991 ac eto rhwng 1994 a 1995.[1]

Mae'r Tŵr yn eiddo ac yn cael ei chynnal gan Collectivité Territoriale de Corse mewn cytundeb gydag asiantaeth lywodraeth Ffrainc, y Conservatoire du littoral. Mae'r asiantaeth yn bwriadu prynu 95 hectar (230 erw) o'r pentir.[2][3] Ar 27 Hydref 1992 fe restrwyd y tŵr fel un o henebion hanesyddol (Monument historique) Ffrainc. [4]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Galeri[golygu | golygu cod y dudalen]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Document d’objectifs du site Natura 2000 FR9400584 - Marais de Lavu Santu et littoral de Fautea - Commune de Zonza (Corse du Sud) (PDF). Conservatoire du littoral. 2007. pp. 43–47.
  2. Catalogue monuments historiques (Adroddiad). Conservatoire du Littoral, Ministère de l'écologie, du développement durable et de l'énergie, République Française. July 2011. p. 51. http://www.conservatoire-du-littoral.fr/include/viewFile.php?idtf=930&path=e7%2F930_116_Catalogue-Illustre-des-Monuments-HistoriquesB.pdf. Adalwyd 27 Ebrill 2015.
  3. "Fautea". Conservatoire du littoral, Ministère de l'écologie, du développement durable et de l'énergie. Cyrchwyd 15 Mawrth 2017.
  4. "Monuments historiques: Torra di Fautea". Ministère de la culture. Cyrchwyd 3 Awst 2018..

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Nivaggioni, Mathieu; Verges, Jean-Marie. "Les Tours Génoises Corses". Sy'n cynnwys gwybodaeth ar sut i gyrraedd 90 o dyrau a llawer o ffotograffau.