Gweriniaeth Genoa

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Gweriniaeth Genoa

  • 1099–1797
  • Ebrill 1814 – Ionawr 1815

 

 

Baner Arfbais
Arwyddair
Respublica superiorem non recognoscens
(Lladin am "Gweriniaeth nad sydd yn cydnabod un uwch")
Gweriniaeth Genoa a'i thiriogaethau yn ystod y cyfnod modern cynnar.
Prifddinas Genoa
Ieithoedd Eidaleg
Ligwreg
Corseg
Lladin
Crefydd Yr Eglwys Gatholig Rufeinig
Llywodraeth Gweriniaeth arforol ac oligarchiaeth
Dug
 -  1339–1344 Simone Boccanegra
 -  1795–1797 Giacomo Maria Brignole
 -  1814–1815 Girolamo Serra
Cyfnod hanesyddol
 -  Sefydlwyd 1099
 -  Dadsefydlwyd 14 Mehefin 1797
 -  Ail-sefydlwyd 26 Ebrill 1814
 -  Dadsefydlwyd 7 Ionawr 1815
Arian cyfred Genovino
Heddiw'n rhan o Yr Eidal
Ffrainc
Gwlad Groeg
Tiwnisia
Syria
Twrci
Yr Wcráin
Ffederasiwn Rwsia

Dinas-wladwriaeth a gweriniaeth arforol a fodolai yng ngogledd yr Eidal o'r 11g hyd at ddiwedd y 18g oedd Gweriniaeth Genoa (Eidaleg: Repubblica di Genova, Ligwreg: Repúbrica de Zêna, Lladin: Res Publica Ianuensis). Lleolwyd ym mhorthladd Genoa a glannau cyfagos Liguria, a daeth nifer o ynysoedd a thiroedd arforol yn y Môr Canoldir a'r Môr Du dan ei meddiant.

Gellir olrhain hanes Genoa yn ôl i 2000 CC pryd cafodd yr ardal ger yr harbwr naturiol ei gwladychu gan forwyr Groegaidd. Bu dan reolaeth yr Ymerodraeth Rufeinig, Teyrnas yr Ostrogothiaid, a Theyrnas y Lombardiaid cyn iddi ddod yn rhan o'r Ymerodraeth Garolingaidd yn niwedd yr 8g ac yna'n rhan o Deyrnas yr Eidal, un o diriogaethau'r Ymerodraeth Lân Rufeinig. Tyfodd Genoa yn un o brif borthladdoedd y Môr Canoldir ac erbyn yr 11g roedd teuluoedd pendefig yng nghefn gwlad Liguria yn symud i'r ddinas i atgyfnerthu eu grym gwleidyddol ac economaidd.

Enillodd Genoa ei hannibyniaeth ar yr Ymerodraeth Lân Rufeinig ym 1099 ar ffurf y Compagna Communis, cynghrair o fasnachwyr a phendefigion yn cynnwys saith (yn ddiweddarach wyth) compagnies neu urdd a chanddynt lyngesau, glanfeydd, arfau, a rhandiroedd dinesig eu hunain. Yng nghyfnod cynnar y ddinas-wladwriaeth, bu cryn anghytuno rhwng yr uchelwyr ac weithiau aeth yn helyntion yn y strydoedd a brwydrau rhwng y gwahanol luoedd.[1]

Bu Gweriniaeth Genoa ar anterth ei grym o'r 12g hyd at ei gorchfygiad gan lynges Gweriniaeth Fenis ym Mrwydr Chioggia (1380). Ildiodd ei thra-arglwyddiaeth yn y Môr Canoldir i Ymerodraeth Sbaen yn nechrau'r 16g, ac o'r cyfnod hwnnw hyd at ddiwedd y 18g llywodraethai Gweriniaeth Genoa fel oligarchiaeth dan reolaeth y bendefigaeth.[1]

Yn sgil ymgyrch Napoleon Bonaparte yn yr Eidal, diddymwyd y weriniaeth ym 1797 a sefydlwyd Gweriniaeth Liguria, un o chwaer-weriniaethau Ffrainc, yn ei lle. Yn sgil cwymp Napoleon, ail-sefydlwyd Gweriniaeth Genoa am gyfnod byr (1814–5) cyn ei chyfeddiannu gan Deyrnas Sardinia.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) "Republic of Genoa" yn Gale Encyclopedia of World History: Governments. Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 12 Mai 2020.