Torra di Capu di Muru

Oddi ar Wicipedia
Torra di Capu di Muru
MathTyrau Genoa yng Nghorsica Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCoti-Chiavari Edit this on Wikidata
GwladBaner Corsica Corsica Baner Ffrainc Ffrainc
Cyfesurynnau41.749974°N 8.676702°E Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb hanesyddol cofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion

Mae Tŵr Capu di Muru (Corseg:Torra di Capu di Muru) yn dŵr Genoa adfeiliedig wedi ei leoli yn commune Coti-Chiavari (Corse-du-Sud) ar arfordir gorllewinol ynys Corsica. Mae'r tŵr yn sefyll ar uchder o 100 metr (330 troedfedd) ar bentir Capu di Muru. Mae'n un o dri thŵr yn y gymuned y ddau arall yw Torra di a Castagna a Torra di Capu Neru.[1]

Hanes[golygu | golygu cod]

Adeiladwyd y tŵr tua 1600. Roedd yn un o gyfres o amddiffynfeydd arfordirol a adeiladwyd gan Weriniaeth Genoa rhwng 1530 a 1620 i atal ymosodiadau gan fôr-ladron Barbari.[2] Ym 1994 fe restrwyd y tŵr fel un o henebion hanesyddol (Monument historique) Ffrainc.[3]

Cadwraeth[golygu | golygu cod]

Mae'r Tŵr yn eiddo i ac yn cael ei chynnal gan Collectivité Territoriale de Corse mewn cytundeb gydag asiantaeth lywodraeth Ffrainc, Conservatoire du littoral. Yn 1979 cyhoeddodd yr asiantaeth ei bwriadu i brynu 215 hectar (530 acr) o'r pentir ac erbyn 2017 cyrhaeddodd y nod.[4][5]. Yn 2005, cliriodd y Conservatoire du Littoral y llwybr sy'n arwain yn uniongyrchol i'r tŵr. Mae modd dringo grisiau allanol i gyraedd y siambr lle byddai'r gwarcheidwaid yn fyw a thrwy ddringo grisiau mewnol mae modd mynd i'r teras ar ben y tŵr. Ar ddiwrnod clir mae modd cael cip ar ynys Sardinia o'r teras.[6]

Galeri[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Coti-Chiavari les trois tours Genoises adalwyd 1 Awst 2018
  2. Graziani, Antoine-Marie (2000). "Les ouvrages de défense en Corse contre les Turcs (1530-1650)". In Vergé-Franceschi, Michel; Graziani, Antoine-Marie (gol.). La guerre de course en Méditerranée (1515-1830). Paris: Presses de l'Université Paris IV-Sorbonne. tt. 141–142. ISBN 2-84050-167-8.
  3. "Monuments historiques: Tŵr de Capo-di-Muro ou Capu-di-Muru". Ministère de la culture. Cyrchwyd 4 May 2014..
  4. Catalogue monuments historiques (Adroddiad). Conservatoire du Littoral, Ministère de l'écologie, du développement durable et de l'énergie, République Française. July 2011. p. 46. http://www.conservatoire-du-littoral.fr/include/viewFile.php?idtf=930&path=e7%2F930_116_Catalogue-Illustre-des-Monuments-HistoriquesB.pdf. Adalwyd 27 April 2015.
  5. "Capu di Muru". Conservatoire du littoral, Ministère de l'écologie, du développement durable et de l'énergie. Cyrchwyd 15 Mawrth 2017.
  6. Randonnée Vigilance sur la tour de Capu di Muru[dolen marw] adalwyd 1 Awst 2018

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]