Neidio i'r cynnwys

Toronto

Oddi ar Wicipedia
Toronto
ArwyddairDiversity Our Strength Edit this on Wikidata
Mathdinas, provincial or territorial capital city in Canada, single-tier municipality, dinas fawr, y ddinas fwyaf, canolfan ariannol, census division of Canada Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlFort Rouillé Edit this on Wikidata
EN-Toronto.ogg Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,794,356 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1750 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethOlivia Chow Edit this on Wikidata
Cylchfa amserCylchfa Amser y Dwyrain, UTC−05:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Daearyddiaeth
LleoliadGreater Toronto Area Edit this on Wikidata
SirOntario Edit this on Wikidata
GwladBaner Canada Canada
Arwynebedd630.21 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr76 ±1 metr Edit this on Wikidata
GerllawLlyn Ontario, Afon Humber, Afon Don, Afon Rouge Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaRegional Municipality of York, Regional Municipality of Durham, Regional Municipality of Peel, Vaughan, Mississauga, Markham, Pickering, Brampton Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau43.6703°N 79.3867°W Edit this on Wikidata
Cod postEdit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholCyngor Dinas Toronto Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Toronto Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethOlivia Chow Edit this on Wikidata
Map
Sefydlwydwyd ganJohn Graves Simcoe Edit this on Wikidata
Toronto yn y gaeaf
Gorsaf reilffordd Toronto

Dinas yng Nghanada yw Toronto, prifddinas talaith Ontario. Roedd gan y ddinas boblogaeth o 2,794,356 yn 2021.[1] Toronto yw’r ddinas fwyaf yng Nghanada a’r 4edd yng Ngogledd America. Mae’n ganolfan bwysig i fusnes, arian, celf a diwylliant ac un o’r mwyaf cosmopolitaidd y byd.[2][3]

Mae pobl cynhenid wedi byw in yr ardal ers dros 10,000 o flynyddoedd.[4]

Sefydlwyd York ym 1793 ar ôl pwrcas Toronto; daeth York yn brifddinas i Ganada Uwch.[5] Dioddefwyd y dref difrod mawr mewn brwydr yn y rhyfel yn erbyn Yr Unol Daleithiau ym 1812.[6] Newidiwyd enw York i Toronto ym 1834, a daeth Toronto yn brifddinas Ontario ym 1867.[7] Erbyn hyn, maint y ddinas yw 630.2 cilomedr sgwâr.

Iaith gyffredin y ddinas yw'r Saesneg, sy'n cael ei siarad gan y rhan fwyaf o'i bobl. Mae enw'r ddinas yn tarddu oddi wrth y gair Mohawk tkaronto, sy'n golygu 'man lle mae coed yn sefyll yn y dŵr'. Yn y gorffennol, roedd Toronto yn cael ei gweinyddu fel pum dinas annibynnol, a gafodd eu huno yn 1996.

Mae Eglwys Dewi Sant yn cynnal gwasanaethau yn yr iaith Gymraeg, yn ogystal â chyrsiau ieithol.

Adeiladau a chofadeiladau

[golygu | golygu cod]
  • Amffitheatr Molson
  • Amgueddfa Brenhinol Ontario
  • Amgueddfa Gardiner
  • Canolfan Toronto Eaton (siopa)
  • Parc HTO
  • Sgwâr Yonge-Dundas
  • Tŵr CN

Enwogion

[golygu | golygu cod]

Cludiant Cyhoeddus

[golygu | golygu cod]

Mae Comisiwn Cludiant Toronto (Saesneg: Toronto Transit Commission) yn cynnig gwasanaethau bws, tramffyrdd a rheilffyrdd tanddaearol. Mae 11 tramffordd a 4 lein danddaearol[8].

Mae gan Toronto 2 maes awyr, Maes awyr Pearson a Maes awyr Billy Bishop. Mae gwasanaethau rhyngwladol yn cyrraedd Maes awyr Pearson. Mae Maes awyr Billy Bishop ar Ynys Toronto; defnyddir gan wasanaethau lleol.

Mae gwasanaethau fferri yn mynd o Toronto i Ynys Ward, Ynys Canol a Pwynt Hanlan[9], ac mae un arall, siwrnai 121 medr o hyd, i Faes Awyr Billy Bishop[10]..

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Gwefan cyfrifiad Canada
  2. ‘Making a Global City: How One Toronto School Embraced Diversity’ gan Robert Vipond; Cyhoeddwr Gwasg Prifysgol Toronto, 24 Ebrill 2017;isbn=978-1-4426-2443-6|, tudalen 147
  3. ‘Desegregating the City: Ghettos, Enclaves, and Inequality’ gan David P. Varady;, Chwefror 2012; cyhoeddwr Gwasg SUNY; isbn=978-0-7914-8328-2, tudalen 3
  4. Gwefan am hanes Toronto
  5. Gwefan Dalzielbarn.com
  6. Gwefan thestar.com
  7. [1]
  8. Gwefan Comisiwn Cludiant Toronto
  9. "Tudalen ynysoedd a fferris Toronto". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-06-20. Cyrchwyd 2015-02-22.
  10. "Amserlen fferi i Faes Awyr Billy Bishop". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-02-14. Cyrchwyd 2015-02-22.

Dolen allanol

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am Ontario. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.