Llyn Ontario
| Math | llyn |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Y Llynnoedd Mawr, y ffin rhwng Canada ac UDA |
| Sir | Ontario, Efrog Newydd |
| Gwlad | Canada, Unol Daleithiau America |
| Arwynebedd | 18,529 km² |
| Uwch y môr | 74.1 metr |
| Cyfesurynnau | 43.7289°N 78.1064°W |
| Dalgylch | 690,000 cilometr sgwâr |
| Hyd | 311 cilometr |
![]() | |
Un o'r Llynnoedd Mawr yng Ngogledd America yw Llyn Ontario (Saesneg: Lake Ontario). Daw'r enw o'r iaith Huron ontarío, yn golygu "llyn mawr". Ef yw'r lleiaf o'r pum Llyn Mawr o ran arwynebedd, er ei fod yn fwy na Llyn Erie o ran y crynswth o ddŵr ynddo. Saif Llyn Ontario ar y ffin rhwng Canada a'r Unol Daleithiau. Yn y gogledd a rhan o'r de mae'n ffinio ar dalaith Ontario, Canada, ac yn y de ar dalaith Efrog Newydd yn yr Unol Daleithiau. Mae ei arwynebedd yn 19,529 km2 a'i hyd yn 388 km.
Llifa Afon Niagara i'r llyn o Lyn Erie, ac mae Afon St Lawrence yn llifo allan o'r llyn. Ceir nifer o ynysoedd yn y llyn; y fwyaf yw Ynys Wolfe. Ymhlith y dinasoedd ar lan y llyn mae Toronto a Hamilton ar ochr Canada a Rochester ac Oswego, ar ochr yr Unol Daleithiau.


