Tomwellt

Oddi ar Wicipedia
Tomwellt wrth wraidd coeden
Tomwellt wrth wraidd coeden

Mae tomwellt (Saesneg: mulch) yn enw ar ddeunydd organig a roir ar bridd ac wrth wraidd neu foncyff planhigion er mwyn gwella a diogelu'r pridd oddi tano a gwella a hirhau bywyd tyfu a ffrywthnlon y planhigyn sy'n ganolbwynt i'r tomwellt.[1] Mae'n hen arfer amaethyddol a geir sawl gwahanol ffurf arni gyda thechnoleg a hefyd mewn modd paramaethyddol.

Pwrpas Tomwellt[golygu | golygu cod]

  • Arbed y pridd rhag ei erydu gan wynt neu ormod o ddŵr neu ddiffyg dŵr/sychder
  • Rheoli a chymhedroli tymheredd y ddaear - cynyddu pan fydd tymheredd yn oer, lleihau pan fydd yr haul yn gras
  • Rheoli ac arbed y planhigyn targed rhag tŵf a lledaeniad chwyn a nacáu gallu y chwyn i egino
  • Arbed y planhigyn targed rhag mynd yn frwnt wrth gyffwrdd â phridd
  • Lleihau anweddiad ac amddiffyn dad-hydriad
  • Cynyddu ffrwythlondeb y pridd

Denydd a ddefnyddir fel Tomwellt[golygu | golygu cod]

Gellir defnyddio amrywiaeth o ddeunydd organig neu fwy neu lai unrhyw beth. Y deunydd mwyaf defnyddiol yw:

dail, gwellt, blawd llif, gwlân, tail, gwrtaith/compost, sglodion pren, plisgyn coed, mawn, papur, cardbord etc.

Gellir hefyd ddefnyddio deunydd diwydiannol a ddefnyddir ar ffermydd amaethyddol ffrwythau a llysiau maint masnachol yn aml:

plastig (polywrethan, finyl polychlorid, mathau eraill o blastig), blancedi thermal.

Tomwellt ar gyfer Adferiad Tir Crin[golygu | golygu cod]

Bydd lladmeryddion dulliau amaethu paramaethu a defnyddio dŵr yn ddarbodus, fel Geoff Lawton a Neal Spackman yn tanlinellu rhan greiddiol tomwelltu ar gyfer gwella tir (a thir heli yn arbennig) sydd wedi dirywio o ganlyniad i or-bori, sychder a cham-reoli. Nodant ei fod yn ffordd rhad, ecolegol a hunangynhaliol o wella cnwd yr amaethwr a hynny heb ddefnyddio chwynladdwyr na defnyddio cemegion.[2] Byddant yn gwneud defnydd o domwellt wedi eidaenu mewn swêl.[3][4]

Gwneir defnydd o lenyddiaeth yr Almaenes, Gertrud Franck a'i llyfr Companion Planting: Successful Gardening the Organig Way[5]

Oriel[golygu | golygu cod]

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-18. Cyrchwyd 2018-12-25.
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-04-15. Cyrchwyd 2018-12-25.
  3. https://www.youtube.com/watch?v=WUnQ4GeUZUA
  4. https://www.youtube.com/watch?v=iB_7-l1OzBs
  5. https://www.soilandhealth.org/wp-content/uploads/0302hsted/030217franck/franck.pdf