Swêl

Oddi ar Wicipedia
Swale neu bioswale wedi ei hadeiladu'n unswydd mewn ardal drefol er mwyn dal a rheoli llif dŵr storm

Mae Swêl (hefyd traethbant) yn dirffurfiad naturiol neu artiffisial wedi ei chynllunio sy'n rheoli llif dŵr, yn enwedig pan ceir cyfnod o law neu llif trwm. Yn Saesneg gelwir y tirffurfiad yn swale neu bioswale.

Disgrifad a Swyddogaeth[golygu | golygu cod]

Mae swale yn sianel bâs gyda llethrau graddol naill ochr i bant. Efallai y bydd cromen naill ai'n naturiol neu'n cael ei greu gan bobl. Mae swale artiffisial yn bant hir a gynlluniwyd er mwyn reoli dŵr ffo, hidlo llygryddion, ac arafu a rhwstro dŵr glaw er mwyn i'r dŵr drylifo i'r ddaear.[1]

Mae'r cysyniad o'r swale wedi ei phoblogi fel strategaeth gynaeafu dŵr glaw a chadwraeth pridd gan paramaethwyr megis Bill Mollison, Geoff Lawton a Neal Spackman. Yn y maes paramaethu pan gyfeirir at swale bydd yn cyfeirio at ffos sy'n cynaeafu dŵr gan ddilyn gyfuchlin y tir (er mwyn manteisio orau ar lif y dŵr a'i gynheuafu'n ddirwystr).[2] Gelwir y math ymo o swale hefyd yn "bwnd cyfuchlin" ("contour bund").

Creir y math penodol o swale paramaethu drwy gloddio ffos ar gyfuchlin y tir a threfnu'r pridd (sy'n aml o ansawdd isel) ar ochr i waelod y ffos er mwyn greu berm. Bydd hwn yn rhwystro ac yn cadw'r dŵr rhag llifo'n bellach gan orfodi'r dŵr i drylifo i'r ddaear ac yna ymlaen ymhellach i lawr y cwm gan ddilyn tynfa naturiol llethr.

Mewn tirwedd o hinsawdd sych a thir crin, gall llystyfiant (sy'n bodoli eisoes neu wedi'i blannu) ar hyd y swale elwa o'r dŵr sy'n croni yn y swales. Plenir coed a llwyni ar hyd y swale sy'n darparu cysgod a tomwellt (Saesneg: mulch) sy'n lleihau anweddiad ac yn ffrwythlonni'r tir. Mae'r planhigion hefyd yn gwreiddio ac yn gymorth i gadw ffurf y swale.

Traethbant[golygu | golygu cod]

Defnyddir "swale" mewn cyd-destun arall, sy'n gweddu i'r gair Cymraeg am "swale" a nodir yng Geiriadur yr Academi, sef, traethbant. Yn yr achos yma disgrifir pantiau hir, cul fel rheol rhwng cribau neu bar tywod tywod sy'n rhedeg yn gyfochrog â'r draethlin.

Gellir awgrymu gair fel cronbant er mwyn disgrifio swêl generig ond pwrpasol at ddal a chronni dŵr.

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. https://www.susdrain.org/delivering-suds/using-suds/suds-components/swales-and-conveyance-channels/swales.html
  2. https://www.youtube.com/watch?v=sohI6vnWZmk