Neal Spackman

Oddi ar Wicipedia

Mae Neal Spackman (ganed yn na talaith Alberta, Canada a magwyd yn Minnesota, yr UDA) [1] yn ecolegydd ymarferol sy'n llunio ac yn lladmeru ar ran amaethyddiaeth ar hyd canllawiau paramaethu. Golyga hyn, cryfhau ecosystem naturiol ardal ac amaethu gan weithio gyda'r tir a'r bywyd a'r hinsawdd naturiol.

Bywyd ac Addysg[golygu | golygu cod]

Dosbrth mewn 'yurt' ar gyfer Permaculture Design Certificate

Ysbrydolwyd Spackman i ddysgu am systemau paramaethu gan y llyfr "Natural Capitalism" gan Amory Lovins a Paul Hawken, yna "Cradle to Cradle," gyda diddordeb arbennig mewn adeiladau sustainable cynnaliadwy.

Graddiodd o Ysgol Fusnes i Raddedigion Prifysgol Stanford ac yn 2010 enillodd dystysgrif cwrs Permaculture Design Certificate (PDC) gan y paramaethydd byd-enwog, Geoff Lawton ar leoliad yn ardal y Môr Marw yng Ngwlad yr Iorddonen. Yn 2018 gwnaethpwyd ef yn Gymrawd Sloan o'r Stanford University Graduate School of Business.[2]

Dosbarth Meistr Cynllunio Cynnaladwy[golygu | golygu cod]

Yn 2015 bu'n sefydlydd y Sustainable Design Masterclass. Mae'n gwrs 3 mlynedd ar y rhyngrwyd sy'n addysgu myfyrwyr ar gynllunio defnydd o dir, rheoli gwahanfa ddŵr (watershed), amaethyddiaeth a rheoli gwastraff.[3]

Rheoli Prosiect Al Baydha[golygu | golygu cod]

Yn 2011 dechreuodd reoli Prosiect Al Baydha sy'n ardal 700 square kilometer i'r de o ddinas Meca yn Sawdi Arabia. Mae rhan bychan o'r ardal, darn tir 28 yn ardal arddangos ar gyfer y prosiect lle dysgir a datblygir ar egwyddion paramaethu cyn eu lledu i weddill y rhanbarth.

Mae'n dadlau fod angen creu system amaethyddol a thirlun sy'n defnyddio llai o ddŵr a hefyd yn cynorthwyo cynyddu dŵr.[4] Mae ardal Al Baydha yn derbyn 2-3 modfedd o ddŵr glaw y flwyddyn.

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-12-15. Cyrchwyd 2018-12-17.
  2. https://www.linkedin.com/in/neal-spackman-29674710[dolen marw]
  3. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-01-26. Cyrchwyd 2021-03-15.
  4. https://soundcloud.com/user-193856180/episode-002-neal-spackman