Paramaeth

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Paramaethu)

Paramaeth (hefyd Permaddiwylliant) yw system o egwyddorion dylunio amaethyddol a chymdeithasol sy’n canolbwyntio ar efelychu’r patrymau a'r nodweddion a welir mewn ecosystemau naturiol neu eu defnyddio’n uniongyrchol. Mae iddo sawl cangen sy’n cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i ddylunio ecolegol, peirianneg ecolegol, dylunio amgylcheddol, adeiladu a rheoli adnoddau dŵr integredig sy'n datblygu pensaernïaeth gynaliadwy, cynefin atgynhyrchiol a hunan-gynhaliaol a systemau amaethyddol wedi'u modelu ar ecosystemau naturiol.[1]

Dywedodd Bill Mollison, a fathodd y term (gweler isod): "Mae paramaeth yn athroniaeth ble gweithir gyda natur, yn hytrach nag yn ei erbyn; un o arsylwi hirfaith a meddylgar yn hytrach na llafur hirfaith a difeddwl, ac o edrych ar holl swyddogaethau planhigion ac anifeiliaid yn hytrach na thrin unrhyw faes fel un system cynnyrch. "

Tarddiad yr enw[golygu | golygu cod]

Bathwyd y term Saesneg permaculture (fel dull systematig) gan yr Awstraliaid David Holmgren, a oedd yn fyfyriwr graddedig ar y pryd, a’i athro, Bill Mollison, yn 1978. Yn wreiddiol roedd y gair permaculture yn cyfeirio "permanent agriculture" (amaethyddiaeth parhaol), ond cafodd ei ehangu i sefyll hefyd am "permanent culture", "diwylliant parhaol", fel y deëllid bod agweddau cymdeithasol yn rhan annatod o system wirioneddol gynaliadwy fel a ysbrydolwyd gan athroniaeth ffermio naturiol Masanobu Fukuoka.

Daeth ‘paramaethu’ yn rhan o’r iaith Gymraeg yn 2012, ar ôl trafodaeth helaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol.[2] Dywedodd Delyth Prys, Prif Olygydd y Ganolfan Safoni Termau ym Mhrifysgol Bangor: ‘Mae 'paramaeth' yn derm da gan ei fod yn adlewyrchu'r cysyniad o parhaol + amaethu, a gellir defnyddio 'amaethu parhaol' (berfenw) neu 'amaeth parhaol' (enw gwrywaidd er bod rhai yn dadlau mai benywaid yw 'amaeth') hefyd mewn cywair anffurfiol lle nad oes angen term technegol cryno.’

Cyn hynny, defnyddiwyd ‘permadiwylliant’ gan rai, gan ddilyn cyngor Bwrdd yr Iaith, ond nid opera a cherddoriaeth yw’r ‘culture’ sydd dan sylw yma.

Ychwanegodd Delyth: ‘Byddwn i hefyd yn creu 'paramaethu' fel berfenw i gyd-fynd gyda'r enw 'paramaeth'. Mae'n well gan y Gymraeg ddefnyddio berfenw yn lle mae'r Saesneg yn tueddu i ddefnyddio enw, felly gall y berfenw 'paramaethu' fod yn ddefnyddiol i chi.’ Erbyn hyn, mae ‘paramaethu’ hefyd yn y Termiadur.[3]

Enghreifftiau o Paramaeth[golygu | golygu cod]

Ceir enghreifftiau nodiadol o bermamaeth neu paramaeth. Un o'r rhai enwocaf yw ail-ffrwythlonni llwyfandir marianpridd Huangtu yn Tsieina a gofnodwyd gan y gwneithurwr ffilmiau ecolegol, John D. Liu. Ymhlith un o'r lladmeryddion enwocaf yn y maes mae'r Astraliad, Geoff Lawton a'i waith yn Awstralia ac yn Wadi Rum yng Ngwlad Iorddonen.

Mae gwaith Neal Spackman a'i waith gyda Prosiect Al Baydha hefyd yn enghraifft bwysig a chyfredol o egwyddorion paramaeth ar waith.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Mars, Ross (2005). The Basics of Permaculture Design. Chelsea Green. t. 1. ISBN 978-1-85623-023-0.
  2. Genedigaeth term newydd Y Gymdeithas Paramaethu yng Nghymru 14 Awst 2014
  3. http://termau.org/#permaculture.