John D. Liu
John D. Liu | |
---|---|
Ganwyd | 2 Ionawr 1953 Nashville, Tennessee |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | cyfarwyddwr ffilm, ecolegydd, amgylcheddwr |
Cyflogwr |
Ganed John Dennis Liu yn 1953 yn Nashville, Tennessee ac mae'n gyfarwyddwr ac ecoloegydd Americanaidd o dras Tsieinieg. Mae'n ymchwilydd mewn sawl gwahanol sefydliad. Yn Ionawr 2015, pendodwyd ef yn Gymar Visiting Fellow yn Athrofa Ecoleg yr Iseldrioedd, (NIOO) sy'n rhan o Academi Celf a Gwyddoniaeth Frenhinol yr Iseldiroedd. Mae'n llysgennad ecosystem ar gyfer y Common Land Foundation, a leolir yn Amsterdam, prifddinas yr Iseldiroedd.[1]
Gwaith Amgylcheddol[golygu | golygu cod]
Mae John D. Liu wedi astudio paramaethu ar lwyfandir mariandir enfawr yn Tsieina ac ar dir crin, lled-anial yn Ngwlad yr Iorddonen lle gwelodd waith y paramaethwr Awstalaidd, Geoff Lawton. Ffilmiodd a chafodd ei ysbrydoli gan waith Lawton yn ail-ffrwythlonni tir crin ac mae'r gwaith yn parhau gyda chefnogaeth y Dywysoges Basma bint Talal.[2] Mae hefyd wedi astudio gwaith paramaethau yn Ethiopia.
Bywgraffiad[golygu | golygu cod]
Gweithiodd rhwng 1981 a 1990, i gwmni teledu Americanaidd, CBS News. Rhwng 1990 a 1994 bu gyda'r cwmni teledu Eidalaidd, RAI a rhwng 1994 a 1997 gyda chwmni teledu Almaenaeg, ZDF. Er 1995, bu'n cynhyrchu ffilmiau i Banc y Byd (y World Bank). Mae'n andabyddus am ei ffilm ddogfen am ail-ffrwythlonni llwyfandir mariandir (Loess Plateau) Huangtu - rhanbarth tua'r un maint â Gwlad Belg yng nghanol Tsienia ar lannau'r Afon Felen. Roedd y llwyfandir (a adnebir fel Loess Plateau) am gyfnod yn ffrwythlon, ond a oedd, oherwydd gor-bori a cham-reolaeth o'r tirwedd ac amaethu, wedi troi'n dir diffaith, tlawd.[3] [4]
Dolenni[golygu | golygu cod]
- Rhaglen ddogfen ar Lwyfandir mariandir yn Tsieina
- Rhaglen ddogfen BBC, 'Hope Changing Climate Archifwyd 2018-09-20 yn y Peiriant Wayback.