Tommy Sheppard

Oddi ar Wicipedia
Tommy Sheppard
Tommy Sheppard


Deiliad
Cymryd y swydd
7 Mai 2015
Rhagflaenydd Sheila Gilmore
Y Blaid Lafur

Geni (1959-03-06) 6 Mawrth 1959 (65 oed)
Coleraine, Swydd Derry
Gogledd Iwerddon
Cenedligrwydd Albanwr
Etholaeth Dwyrain Caeredin
Plaid wleidyddol Plaid Genedlaethol yr Alban
Logo
Alma mater Prifysgol Aberdeen
Galwedigaeth Swyddog Llywodraeth Leol
Gwefan http://www.snp.org/
Rhwng 1979 a 2003 bu'n aelod o'r Blaid Lafur.

Gwleidydd o'r Alban yw Tommy Sheppard (ganwyd 6 Mawrth 1959) a etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Ddwyrain Caeredin; mae'r etholaeth yn Ninas Caeredin, yr Alban. Mae Tommy Sheppard yn cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin.

Ganwyd Sheppard yn Coleraine, Swydd Derry yn 1959 cyn symud ychydig filltiroedd i lawr y stryd i Portstewart, pan oedd yn 7 oed. Wedi'r ysgol uwchradd aeth i Brifysgol Aberdeen i astudio meddygaeth.[1] Graddiodd mewn Gwleidyddiaeth a Chymdeithaseg yn 1982. Yr un flwyddyn, fe'i etholwyd yn Is-Lywydd Undeb y Myfyrwyr (yr NUS) a symudodd i Lundain.[2]

Tra yn Llundain, bu'n ymgeisydd seneddol i'r Blaid Lafur, ond yn In 2012 ymunodd gyda'r ymgyrch dros annibyniaeth i'r Alban ac yn 2014 ymunodd gyda'r SNP.

Etholiad 2015[golygu | golygu cod]

Yn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban.[3][4] Yn yr etholiad hon, derbyniodd Tommy Sheppard 23188 o bleidleisiau, sef 49.2% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd o 28.8 ers etholiad 2015 a mwyafrif o 9106 pleidlais.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Leask, David (1 Mehefin 2015). "Analysis: SNP bucks trend for privately educated MPs". The Herald (Glasgow). Glasgow. Cyrchwyd 1 Mehefin 2015.
  2. "Tommy Sheppard SNP Prospective Parliamentary Candidate for Edinburgh East". tommysheppard.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-05-18. Cyrchwyd 2015-07-07.
  3. Gwefan y BBC; adalwyd 03 Gorffennaf 2015
  4. Adroddiad yn y Guardian ar y don o seddi gan yr SNP yn yr Alban