Tom Huws

Oddi ar Wicipedia
Tom Huws yn 64 oed

Bardd ac athro o'r Groeslon yn Sir Gaernarfon (Gwynedd heddiw) oedd Tom Huws.

Enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1959 efo'i bryddest Cadwynau. Yn y bryddest bu'n trafod y cyni a'r adfyd a effeithiodd ei ardal enedigol yn dilyn cau'r chwarel leol yn Nyffryn Nantlle.

Bu'n athro Cymraeg mewn nifer o ysgolion gan gynnwys Ysgol Glan Clwyd. Roedd yn genedlaetholwr i'r carn.



Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.