Tomás Ó Criomhthain

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Tomás Ó Criomhthain
Tomás Ó Criomhthain.png
Ganwyd 21 Rhagfyr 1856 Edit this on Wikidata
Ynysoedd Blasket Edit this on Wikidata
Bu farw 7 Mawrth 1937 Edit this on Wikidata (80 oed)
Ynysoedd Blasket Edit this on Wikidata
Galwedigaeth pysgotwr, ffermwr, dyddiadurwr, awdur Edit this on Wikidata
Gwaith nodedig An t-Oileánach, Allagar na h-Inise Edit this on Wikidata
Tad Donal Edit this on Wikidata
Mam Q20969895 Edit this on Wikidata
Priod Máire Ní Chatháin Edit this on Wikidata
Plant Sean O'Crohan Edit this on Wikidata
Teulu Pats O'Crohan, Maura O'Crohan, Kate O'Crohan, Eileen O'Crohan, Nora O'Crohan Edit this on Wikidata
An Blascaod Mór ar doriad gwawr

Llenor Gwyddeleg oedd Tomás Ó Criomhthain [Thomas O'Crohan] (21 Rhagfyr 18567 Mawrth 1937). Roedd yn frodor o An Blascaod Mór, y fwyaf o Ynysoedd Blasket oddi ar arfordir Swydd Kerry yn ne-orllewin Gweriniaeth Iwerddon, lle roedd diwylliant unigryw, Gwyddeleg ei iaith.

Ysgifennodd ddau lyfr, Allagar na hInise yn 1918-23, a gyhoeddwyd yn 1928, a'i gampwaith, yr hunangofiant An tOileánach ("Yr Ynyswr"), a orffennodd yn 1923 ac a gyhoeddwyd yn 1929. Ystyrir An tOileánach yn un o glasuron yr Wyddeleg, ac mae'n rhoi darlun o ffordd o fyw a ddiflannodd pan adawodd y trigolion olaf yr ynys yn y 1950au. Fel y rhan fwyaf o'r ynyswyr, enillai ei fywoliaeth fel pysgotwr yn bennaf, ond hefyd yn torri mawn a thyfu cnydau.

Cafodd addysg ysbeidiol pan oedd rhwng 10 a 18, pan ddeuai athrawes o'r tir mawr i fyw ar yr ynys am gyfnod. Priododd Máire Ní Chatháin yn 1878. Cawsant ddeg o blant, ond bu nifer ohonynt farw yn ieuanc, rhai o afiechydon ac araill mewn damweiniau. Ysgrifennodd ei fab, Seán, lyfr hefyd, yn disgrifio ymadawiad y trigolion olaf o'r ynysoedd.