Tlodi ynni a choginio

Oddi ar Wicipedia
a 3-stone stove
Stof coed draddodiadol a wnaed o dair carreg yn Guatemala, sy'n achosi llygredd aer dan do.
Tlodi ynni a choginio
Rhan otlodi ynni, datblygiadau gwledig Edit this on Wikidata

Un agwedd ar dlodi ynni yw diffyg mynediad at danwydd glân, modern a thechnolegau ar gyfer coginio. O 2020 ymlaen, roedd mwy na 2.6 biliwn o bobl mewn gwledydd sy'n datblygu yn coginio'n rheolaidd gyda thanwydd fel pren, tail anifeiliaid, glo, neu cerosin. Mae llosgi'r mathau hyn o danwydd mewn tanau agored neu stofs traddodiadol yn achosi llygredd aer niweidiol yn y cartref, gan arwain at amcangyfrif o 3.8 miliwn o farwolaethau bob blwyddyn yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), ac yn cyfrannu at amrywiol broblemau iechyd, economaidd-gymdeithasol ac amgylcheddol.

Blaenoriaeth uchel mewn datblygu cynaliadwy byd-eang yw sicrhau bod cyfleusterau coginio glân ar gael i bawb a hwnnw'n fforddiadwy. Mae stofiau ac offer sy'n rhedeg ar drydan, nwy petrolewm hylifol (LPG), nwy naturiol trwy bibell (PNG), bio -nwy, alcohol, a gwres solar yn cwrdd â chanllawiau WHO ar gyfer coginio glân. Mae stofiau sy'n llosgi biomas yn fwy effeithlon na stofiau traddodiadol yn cael eu hadnabod fel "stofiau coginio gwell", ac maent yn ateb dir canol pwysig mewn meysydd lle mae defnyddio technolegau glanach yn llai ymarferol.

Byddai mynediad byd-eang, cyffredinol i gyfleusterau coginio glân yn dod â manteision mawr o ran diogelu'r amgylchedd a chydraddoldeb rhyw.

Problemau gyda thanwydd coginio traddodiadol[golygu | golygu cod]

Stofs llosgi coed traddodiadol

Effeithiau ar iechyd[golygu | golygu cod]

O 2020 ymlaen, roedd mwy na 2.6 biliwn o bobl[1] mewn gwledydd sy'n datblygu yn dibynnu ar losgi tanwydd biomas ee pren, tail sych, glo, neu cerosin ar gyfer coginio, sy'n achosi llygredd aer niweidiol yn y cartref a hefyd yn cyfrannu'n sylweddol at lygredd aer.[2] Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn amcangyfrif bod llygredd sy'n gysylltiedig â choginio yn achosi 3.8 miliwn o farwolaethau blynyddol.[3] Amcangyfrifodd yr astudiaeth Baich Clefydau Byd-eang fod nifer y marwolaethau yn 2017 yn 1.6 miliwn.[4]

Mae mwg tanwydd solet yn cynnwys miloedd o sylweddau peryglus ee carbon monocsid (CO); mater gronynnol bach; ocsid nitraidd; ocsidau sylffwr ; amrywiaeth o gyfansoddion organig anweddol, gan gynnwys fformaldehyd, bensen a 1,3-biwtadïen; a chyfansoddion aromatig polysyclig, megis benzo-a-pyren, y credir bod iddynt ganlyniadau iechyd tymor byr a hirdymor.[5]

Effeithiau ar fenywod a merched[golygu | golygu cod]

Mae effeithiau iechyd yn effeithio merched yn bennaf, gan mai merched sy'n debygol o fod yn gyfrifol am goginio, a phlant ifanc., fel arfer.[6] Mae'r gwaith o gasglu tanwydd yn gwneud menywod a phlant yn agored i risgiau diogelwch ac yn aml yn defnyddio 15 awr neu fwy yr wythnos, gan gyfyngu ar yr amser sydd ar gael iddynt ar gyfer addysg, gorffwys a gwaith cyflogedig.[6] Yn aml, rhaid i fenywod a merched gerdded pellteroedd hir i gael tanwydd coginio, ac, o ganlyniad, wynebu risg uwch o drais corfforol a rhywiol. [7] Efallai na fydd llawer o blant, yn enwedig merched, yn mynychu'r ysgol er mwyn helpu eu mamau gyda chasglu coed tân a pharatoi bwyd.[7]

Effeithiau amgylcheddol[golygu | golygu cod]

Nid marwoldeb a baich afiechyd yw'r unig effeithiau andwyol o ddefnyddio technoleg ynni aneffeithlon megis hylosgi biomas. Gall difrod amgylcheddol lleol difrifol, gan gynnwys diffeithdiro, gael ei achosi gan gynaeafu gormodol o bren a deunydd hylosg arall.[8]

Cyfleusterau coginio glân a argymhellir gan WHO[golygu | golygu cod]

Nid yw poptai solar yn llygru ac nid yw'n costio ceiniog i'w defnyddio, ond mae angen tywydd ffafriol ac amseroedd coginio hirach.[2]

Blaenoriaeth uchel mewn datblygu cynaliadwy byd-eang yw sicrhau bod cyfleusterau coginio glân ar gael i bawb a hwnnw'n fforddiadwy. [9]

Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, mae stofs / poptai sy'n cael eu pweru gan drydan, nwy petrolewm hylifol (LPG), nwy naturiol pibell (PNG), bio-nwy, alcohol, a gwres solar yn "lân".[2] Gellir dosbarthu stofiau sy'n llosgi pelenni biomas fel cyfleusterau coginio glân os cânt eu gweithredu'n gywir a bod gan y pelenni lefelau lleithder digon isel, ond nid yw'r stofiau hyn ar gael yn eang.[7]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Access to clean cooking – SDG7: Data and Projections – Analysis". IEA (yn Saesneg). October 2020. Cyrchwyd 2021-03-31.
  2. 2.0 2.1 2.2 World Health Organization 2016.
  3. "Household air pollution and health: fact sheet". WHO (yn Saesneg). 8 May 2018. Cyrchwyd 2020-11-21.
  4. Ritchie, Hannah; Roser, Max (2019). "Access to Energy". Our World in Data. https://ourworldindata.org/indoor-air-pollution#indoor-air-pollution-is-one-of-the-leading-risk-factors-for-premature-death. Adalwyd 1 April 2021. ""According to the Global Burden of Disease study 1.6 million people died prematurely in 2017 as a result of indoor air pollution ... But it's worth noting that the WHO publishes a substantially larger number of indoor air pollution deaths..""
  5. Peabody, J. W., Riddell, T. J., Smith, K. R., Liu, Y., Zhao, Y., Gong, J., ... & Sinton, J. E. (2005). Indoor air pollution in rural China: cooking fuels, stoves, and health status. Archives of environmental & occupational health, 60(2), 86-95.
  6. 6.0 6.1 World Health Organization 2016, tt. VII–XIV.
  7. 7.0 7.1 7.2 ESMAP 2020.
  8. Tester 2012, t. 504.
  9. United Nations (2018). "Accelerating SDG 7 Achievement Policy Brief 02: Achieving Universal Access to Clean and Modern Cooking Fuels, Technologies and Services" (PDF). UN.org. Cyrchwyd April 5, 2021.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]