Ocsid Nitrus

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ocsid Nitrus
Nitrous-oxide-2D-VB.svg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynol Cyffur meddygol Edit this on Wikidata
Màs 44.001 Uned dalton edit this on wikidata
Fformiwla gemegol N₂o edit this on wikidata
Enw WHO Nitrous oxide edit this on wikidata
Clefydau i'w trin Trafferth anadlu, cnawdnychiad edit this on wikidata
Dynodwyr
Freebase /M/09bml edit this on wikidata
Thesawrws y BNCF 42757 edit this on wikidata
CAS 10024-97-2 edit this on wikidata
PubChem CID 948 edit this on wikidata
ChEBI 17045 edit this on wikidata
ChEMBL Chembl1234579 edit this on wikidata
ChemSpider 923 edit this on wikidata
UNII K50xqu1029 edit this on wikidata
ATC N01ax13 edit this on wikidata
KEGG D00102 edit this on wikidata
MeSH D009609 edit this on wikidata
Rhif EC 233-032-0 edit this on wikidata
Cofrestr Beilstein 8137358 edit this on wikidata
Drugbank 06690 edit this on wikidata
ECHA 100.030.017 edit this on wikidata
PDB 2Icq, 2ie7, 3ple, 3plg, 3pli, 3plh, 3plj, 3plm, 4nxc, 2ppa, 3pku, 3pks, 3pk3, 4nwe, 3pkt, 3sbr, 4o4z edit this on wikidata
RxNorm CUI 7486 edit this on wikidata
UMLS CUI C0028215 edit this on wikidata
NDF-RT N0000147387 edit this on wikidata
Quora Nitrous-oxide edit this on wikidata
Arall
Commons page Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae ocsid nitrus sy’n cael ei alw’n aml yn nwy chwerthin, yn gyfansoddyn cemegol, yn ocsid nitrogen.[1] Y fformiwla cemegol ar gyfer y cyffur hwn yw N₂O. Ar dymheredd yr ystafell, mae'n nwy di-fflamadwy di-liw, gydag arogl a blas metelig. Ar dymheredd uchel, mae ocsid nitrus yn ocsidydd pwerus sy'n debyg i ocsigen moleciwlaidd.

Mae gan ocsid nitrus ddefnyddiau meddygol sylweddol, yn enwedig mewn llawfeddygaeth a deintyddiaeth[2], am ei effeithiau anaesthetig a lleihau poen. Mae ei enw nwy chwerthin, a bathwyd gan Humphry Davy, yn seiliedig ar yr effeithiau perlesmeiriol ceir wrth ei anadlu, eiddo sydd wedi arwain at ei ddefnydd hamddenol fel anesthetig datgysylltiol[3].

Defnydd meddygol[golygu | golygu cod y dudalen]

Fe'i rhoddir fel triniaeth ar gyfer gwahanol gyflyrau meddygol, gan gynnwys:

  • trafferth anadlu
  • cnawdnychiad
  • Enwau[golygu | golygu cod y dudalen]

    Caiff cyffuriau eu hadnabod gan amryw o enwau gwahanol yn aml. Enw cemegol y cyffur hen yw Ocsid Nitrus, ond rhoddir enwau masnachol a brand iddo hefyd, gan gynnwys;

  • NOS
  • R-744A
  • NNO
  • nitrous
  • nitrogen protoxide
  • nitro
  • Nitrious oxide
  • hyponitrous acid anhydride
  • nwy chwerthin
  • aer dyfeisiedig
  • Gwthiant aerosol[golygu | golygu cod y dudalen]

    Mae'r nwy yn cael ei gymeradwyo i'w ddefnyddio fel ychwanegyn bwyd (E942)[4], yn benodol fel gwthiant chwistrellu aerosol. Ei ddefnydd mwyaf cyffredin yn y cyd-destun hwn yw mewn caniau hufen a chwistrelliad aerosol a chwistrellau coginio. Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio fel nwy anadweithiol i ddisodli ocsigen er mwyn atal twf bacteriol wrth lenwi pecynnau creision tatws, bwydydd byrbryd tebyg a llysiau wedi eu rhagbaratoi.

    Tanwydd[golygu | golygu cod y dudalen]

    Mae ocsid nitrus yn cael ei ddefnyddio fel ocsidydd mewn tanwydd roced ac mewn ceir rasio modur i gynyddu allbwn pŵer eu peiriannau.

    Effaith diwylliannol[golygu | golygu cod y dudalen]

    Mae ocsid nitrus yn digwydd ar lefelau bychan yn yr atmosffer. Mae'n garthysydd raddfa fawr ar osôn stratosfferig, gydag effaith sy'n debyg i effaith CFCs. Amcangyfrifir bod 30% o'r ocsid nitrus yn yr atmosffer yn ganlyniad gweithgarwch dynol, yn bennaf trwy amaethyddiaeth[5][6].

    Mae ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, y meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd.

    Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

    1. Pubchem. "Ocsid Nitrus" (yn en). https://pubchem.ncbi.nlm.nih.gov/compound/948.
    2. Dental fear central Inhalation Sedation (Laughing Gas) adalwyd 9 Mawrth 2018
    3. BBC newyddion How dangerous is laughing gas? adalwyd 9 Mawrth 2018
    4. Food Info - E942 adalwyd 9 Mawrth 2018
    5. Ravishankara, A. R.; Daniel, J. S.; Portmann, R. W. (2009). "Nitrous Oxide (N2O): The Dominant Ozone-Depleting Substance Emitted in the 21st Century". Science 326 (5949): 123–5. Bibcode 2009Sci...326..123R. doi:10.1126/science.1176985. PMID 19713491.
    6. Grossman, Lisa (28 August 2009). "Laughing gas is biggest threat to ozone layer". NewScientist. https://www.newscientist.com/article/dn17698-laughing-gas-is-biggest-threat-to-ozone-layer.html.


    Cyngor meddygol

    Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

    Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!