Cyfansoddion organig anweddol

Oddi ar Wicipedia

Nwyon neu anweddau yw cyfansoddion organig anweddol neu COA (Saesneg: Volatile organic compounds/VOCs), a gaiff eu allyrru gan amryw o hylifau a solidau, mae gan lawer ohonynt effeithiau gwael tymor-hir a thymor-byr ar iechyd. Mae nwyddau iw cael yn y tŷ sy'n allyrru COA yn cynnwys paent, diosgion paent, deunyddiau glanhau, plaladdwyr, glud ac adlynion, deunyddiau adeiladu a dodrefn. Oherwydd hyn, mae lefelau crynodiad COA yn uwch tu mewn (hyd at ddeg gwaith yn uwch) nag y mae tu allan.[1] Mae tanwydd megis petrol a disel hefyd yn rhyddhau COA.

ffynonellau[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am fioleg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.