Mater gronynnol

Oddi ar Wicipedia
Gellir rhannu mater gronynnol yn bedwar math: Difwynwyr nwyol, difwynwyr gronynnol, llwch a biolegol.

Mae mater gronynnol yn gymysgedd cymhleth o solidau a hylifau, gan gynnwys carbon, cemegau organig cymhleth, sylffadau, nitradau, llwch mwynol, a dŵr yn yr aer. Mae’n amrywio mewn maint. Mae rhai gronynnau, fel llwch, huddygl, baw neu fwg yn ddigon mawr neu’n ddigon tywyll i ni eu gweld gyda’n llygaid ein hunain. Ond y gronynnau mwyaf niweidiol yw’r gronynnau llai, sef PM10 a PM2.5. Mae PM10 yn cyfeirio at ronynnau sydd â diamedr sy’n llai na 10 micron (10μm) – sef 10 miliynfed o fetr. Mae PM2.5 yn cyfeirio at ronynnau sydd â diamedr sy’n llai na 2.5 micron, ac enw’r rhain yw gronynnau mân. Mae’r gronynnau mân lleiaf, llai na 0.1 micron mewn diamedr, yn cael eu galw’n gronynnau tra mân.

Daw mater gronynnol ‘gwneud’ yn bennaf o brosesau diwydiannol, gwaith adeiladu, mwg o beiriannau disel a phetrol, ffrithiant o frecio a theiars, a llwch o arwynebau ffordd. Mae injan ddisel yn tueddu i gynhyrchu llawer mwy nag injan betrol. Mae llosgfynyddoedd, diferion o’r môr, paill a phridd yn ffynonellau mater gronynnol. Caiff hefyd ei ffurfio yn yr atmosffer pan fydd nwyon fel nitrogen deuocsid a sylffwr deuocsid yn cael eu newid yn yr aer gan adweithiau cemegol.

Effeith ar eich iechyd[golygu | golygu cod]

Maint y mater gronynnol sy’n penderfynu ble yr aiff unwaith y caiff ei anadlu. Gall gronynnau mwy gael eu dal yn eich trwyn, ond gall PM10 gyrraedd eich llwybrau anadlu. Gall gronynnau mân (PM2.5) gyrraedd y codenni anadlu yn ddwfn yn eich ysgyfaint, a gall gronynnau hynod fân hyd yn oed groesi i lif y gwaed. Gall cemegau gwenwynig fod yn y gronynnau hyn, ac mae cysylltiad rhyngddynt â chanser. Gall mater gronynnol lidio eich trwyn a’ch gwddf, a gall fod yn gysylltiedig â symptomau mwy difrifol mewn pobl sydd ag asthma. Mae’n golygu bod mwy o bobl sydd â chyflwr ar eu hysgyfaint (COPD, asthma, broncitis) a chyflwr ar eu calon (trawiad y galon, strôc) yn mynd i’r ysbyty. Mae hefyd yn achosi i bobl farw’n gynnar o glefyd yr ysgyfaint a’r galon hefyd. Mae tystiolaeth hefyd bod anadlu mater gronynnol, yn y tymor hir, yn gallu cyfrannu at ddatblygu canser yr ysgyfaint ac asthma o bosib.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol yn unig. Allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r British Lung Foundation.

Am wybodaeth lawn gweler yr [ erthygl wreiddiol] gan y British Lung Foundation neu am driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]