Tim Cahill
| Tim Cahill | |
|---|---|
| Ganwyd | Timothy Filiga Cahill 6 Rhagfyr 1979 Sydney |
| Man preswyl | Catar |
| Dinasyddiaeth | Awstralia, Samoa |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | pêl-droediwr, sgriptiwr, ysgrifennwr, rheolwr pêl-droed |
| Swydd | Llysgennad Ewyllus Da UNICEF |
| Taldra | 178 centimetr |
| Pwysau | 86 cilogram |
| Plant | Kyah Cahill, Shae Cahill |
| Gwobr/au | Swyddogion Urdd Awstralia |
| Gwefan | http://www.timcahill.com |
| Chwaraeon | |
| Tîm/au | Millwall F.C., Red Bull New York, Everton F.C., Shanghai Shenhua F.C., Zhejiang Professional F.C., Australia national under-23 soccer team, Tîm pêl-droed cenedlaethol Awstralia, Samoa men's national football team, Melbourne City FC, Millwall F.C., Jamshedpur FC |
| Safle | chwaraewr canol cae |
| Gwlad chwaraeon | Samoa, Awstralia |
Pêl-droediwr o Awstralia ydy Tim Cahill (ganwyd Timothy Filiga Cahill, 6 Rhagfyr 1979) sy'n chwarae i'r Shanghai Shenhua yng Nghynghrair Chinese Super League yn y Tsieina ac i dîm pêl-droed cenedlaethol Awstralia. Cyn symud i Efrog Newydd roedd yn chwarae ei bêl-droed yn Lloegr i Millwall ac Everton.
Ganed Cahill yn Sydney, Awstralia i dad Seisnig o dras Wyddelig a mam o Samoa[1][2].
O'r herwydd, roedd yn gymwys i chwarae pêl-droed i Awstralia, Lloegr, Samoa a Gweriniaeth Iwerddon a phan yn 14-mlwydd-oed cafodd ei alw i garfan dan 20 Samoa ar gyfer Pencampwriaeth dan 20 Oceania[3]. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf fel eilydd mewn colled 3-0 yn erbyn Seland Newydd a chwaraeodd ei ail gêm yn y golled 3-0 erbyn Fanwatw[4] ochr yn ochr â'i frodyr Sean, oedd yn golwr, a Chris, aeth ymlaen i fod yn gapten ar Samoa.
Yn 2002 cafodd Cahill gynnig i ymuno â charfan Gweriniaeth Iwerddon ond oherwydd ei ddwy gêm i dîm dan 20 Samoa, nid oedd yn gymwys, ond newidiwyd rheolau cymhwyster FIFA yn 2004 a penderfynodd Cahill ddewis cynrychioli Awstralia.[5]
Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i'r Socceroos mewn gêm gyfeillgar yn erbyn De Affrica ar 30 Mawrth 2004 yn Loftus Road, Llundain[6] a bellach, Cahill yw prif sgoriwr yn holl hanes pêl-droed Awstralia gyda 31 gôl ar ôl iddo rwydo dwywaith mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Ecwador ar 5 Mawrth 2014.[7]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Shooting star: Tim Cahill". The Sydney Morning Herald. 2009-04-02.
- ↑ Collins, Pádraig (2010-06-10). "Ireland's loss is Socceroos' gain with Cahill". Irish Echo. Australia. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-12-27. Cyrchwyd 2014-06-19.
- ↑ "Profiles — Tim Cahill". Football News. 2006-03-17. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-02-22. Cyrchwyd 2014-06-19.
- ↑ Curtis, Adrian (2002-02-14). "I will take FIFA to court, vows Cahill". London Standard.
- ↑ "World Cup 2014: The secrets behind the players". The Guardian. 2014-05-31.
- ↑ "Australia 1-0 South Africa". 30 Mawrth 2004.
- ↑ "Tim Cahill becomes Australia's all-time leading goalscorer after early header against Ecuador". Herald Sun. 6 Mawrth 2014.