Thomas Williams (Brynfab)
Gwedd
| Thomas Williams | |
|---|---|
| Ffugenw | Brynfab |
| Ganwyd | 8 Medi 1848 Cwmaman |
| Bu farw | 18 Ionawr 1927 |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | bardd, nofelydd, ffermwr |
Ffermwr, bardd a nofelydd Cymreig oedd Thomas Williams (Brynfab) (8 Medi 1848 – 18 Ionawr 1927). Cafodd ei eni a'i fagu yng Nghwmamam, Sir Gaerfyrddin.[1]
Daeth yn aelod blaenllaw o gylch llenyddol a cherddorol Clic y Bont, Pontypridd. Am flynyddoedd bu'n olygydd Tarian y Gweithiwr. Cyhoeddodd nifer o gerddi yng nghyfnodolion Cymraeg y cyfnod ond fe'i cofir yn bennaf heddiw am ei unig nofel, Pan oedd Rhondda'n bur, sy'n rhoi darlun o fywyd Cymraeg Cwmamam cyn y chwyldro diwydiannol.[1]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Pan oedd Rhondda'n bur (1912)