Thomas Lloyd (is-lywodraethwr)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Thomas Lloyd
Ganwyd 6 Ebrill 1640 Edit this on Wikidata
Sir Drefaldwyn Edit this on Wikidata
Bu farw 10 Medi 1694 Edit this on Wikidata (54 oed)
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth Meddyg Edit this on Wikidata

Roedd Thomas Lloyd (6 Ebrill 164010 Medi 1694) yn is-lywodraethwr Talaith Pennsylvania a phregethwr yn enwad y Crynwyr.

Bywyd Cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd yn drydydd mab i Charles I Lloyd (1597-) o Ddolobran, ym mhlwyf Meifod, Sir Drefaldwyn, gan ei wraig Elizabeth Stanley, aelod o linell iau teulu Stanley, ieirll Derby. [1]

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Addysgwyd ef yn Ysgol Rhuthun. Astudiodd y gyfraith a meddygaeth yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, lle graddiodd ym 1661. Daeth yn Grynwr, ac ym 1664 cafodd ei arestio a'i garcharu yn y Trallwng hyd gyhoeddi'r Datganiad Rhyddhad Brenhinol ym 1672. [2]

Daeth yn feddyg, a bu ganddo bractis eang; ond ym 1683 ymfudodd ef a'i deulu i Pennsylvania gyda William Penn oherwydd parhad yr erledigaeth grefyddol. Penododd Penn ef yn feistr y rholiau. Fe'i dewiswyd i gynrychioli Philadelphia County yn y cyngor taleithiol ym mis Ionawr 1684, ac fel ei lywydd bu'n gweinyddu'r llywodraeth ar ôl i Penn hwylio i Loegr ym mis Awst hyd 9 Rhagfyr 1687, pan oedd yn un o gomisiwn gweithredol o bump a ddaliodd bŵer am ddeng mis.

Etholwyd ef unwaith eto i'r cyngor i gynrychioli Bucks County ym 1689, a chymerodd ei sedd er gwaethaf gwrthwynebiad y llywodraethwr, John Blackwell, gyda'r hwn yr oedd ef ac eraill o blaid y Crynwyr wedi cael anghydfod. Disodlwyd Blackwell o'i swydd gan Penn, a dewiswyd Lloyd unwaith eto'n llywydd y cyngor. Wedyn comisiynwyd ef yn is-lywodraethwr gan Penn, a bu'n deiliad y swydd o 1690 i 1693. Yn ystod ei weinyddiaeth, digwyddodd y sgism dan arweiniad George Keith .

Cyhoeddwyd dau o'i bamffledi yn pledio achos y Crynwyr yn ddiweddarach: Llythyr i fy Annwyl a hoff Gyfeillion yn Nolobran" ym 1788 a "Llythyr i John Eccles a'i Wraig" ym 1805. [2]

Bywyd Personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Priododd ddwywaith, yn gyntaf â Mary Jones (m.1680), merch y Col. Roger Jones o'r Trallwng, Llywodraethwr Dulyn yn ystod teyrnasiad y Brenin Iago II, a drechodd Ardalydd Ormond yn Iwerddon. Yn ail, priododd â Patience Storey, ni fu iddynt blant. [3]

Mae'n debyg ei fod yn gefnder i David Lloyd, y barnwr a'r gwleidydd yn Nhalaith Pennsylvania. [4]

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw yn Pennsylvania, 10 Medi 1694. [5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. John Burke, Burke's Genealogical and Heraldic History of the Landed Gentry, 15th Edition, ed. Pirie-Gordon, H., London, 1937, pp.1392-3
  2. 2.0 2.1 Jones, E. D., (1953). LLOYD (TEULU), Dolobran, Sir Drefaldwyn.. Y Bywgraffiadur Cymreig Adferwyd 13 Gor 2019
  3. Burke, John, A Genealogical and Heraldic History of the Commoners of Great Britain and Ireland, Vol.4, London, 1838, pp.107-114, achau teulu "Lloyd, Dolobran", p.108
  4. "WELSH EMIGRANTS - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1893-12-09. Cyrchwyd 2019-07-13.
  5. Colonial and Revolutionary Families of Pennsylvania, J.W. Jordan, 1911