Thomas Carrington

Oddi ar Wicipedia
Thomas Carrington
FfugenwPencerdd Gwynfryn Edit this on Wikidata
Ganwyd24 Tachwedd 1881 Edit this on Wikidata
Gwynfryn Edit this on Wikidata
Bu farw6 Mai 1961 Edit this on Wikidata
Coedpoeth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcerddor, argraffydd Edit this on Wikidata

Cerddor, argraffydd a chyhoeddwr o Gymro oedd Thomas Carrington ("Tom" neu "Pencerdd Gwynfryn") (24 Tachwedd 18816 Mai 1961). Ganwyd yn y Gwynfryn, Bwlch-gwyn, ger Wrecsam, sir Ddinbych. Roedd ei dad John Carrington yn hanu o Gernyw, sef aelod o un o'r teuluoedd a ymfudasant i'r Mwynglawdd, sir Ddinbych tua dechrau canrif 19, a'i fam Winifred (g. Roberts), yn frodorion Bryneglwys. Magwyd Carrington yn y Gwynfryn, ac wedi derbyn ei addysg yn ysgol Bwlch-gwyn, cafodd brentisiaeth i fod yn argraffydd yn Wrecsam gyda chwmni Hughes a'i Fab. Yn ystod y cyfnod hwn fe gyfarfu a Mildred Mary Jones, Minera, ac wedi iddynt briodi, symudodd y ddau i Goed-poeth i fyw. Daliodd ati gyda'i yrfa galwedigaeth fel argraffydd a chyhoeddwr cerddoriaeth.[1]

Datblygodd ei ddawn neilltuol mewn cerddoriaeth yn ifanc iawn, ac yn naw oed fe'i penodwyd yn organydd yn y Gwynfryn gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Astudiai gerddoriaeth yn ei amser hamdden trwy ddull nodiant y tonic sol-ffa a chyfarwyddyd Morton Bailey yn Wrecsam. Ar ól 15 mlynedd gyda'r Methodistiaid, treuliodd dros hanner canrif yn organydd yn eglwys Rehoboth (EF), Coed-poeth, a chyfranodd yn helaeth at waith yr eisteddfod fel beirniad, arweinydd a chyfansoddwr. Roedd yn olygydd cerdd Y Winllan a'r Eurgrawn yn ogystal ag ysgrifennydd pwyllgor y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd (1929) yng ngofal cynnwys cerddorol Llyfrau Emynau a Thonau. Bu'n ysgrifennydd cyffredinol Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn 1933, ac mae'n adnabyddus yn bennaf oll am y gweithiau cerddorol Concwest Calfari (anthem SATB 1912), Hen Weddi Deuluaidd Fy Nhad (unawd contalto/bariton 1910) a Gwynfryn a Brynd-du (tonau cynulleidfaol). Mae llawlyfr Yr Ysgol Gán gan Gee (1957) a Doniau Da (1955) yn cynnwys nifer o'i donau neu ganiadau gwreiddiol, ynghyd á rhai trefniadau eraill o emyn-donau.

Bu farw Carrington ar 6 Mai 1961 yn ei gartref, ac fe'i coffeir yn eglwys Rehoboth, Coed-poeth ar lechen a ddadorchuddiwyd yn 1963.

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • Who's who in Wales (1937);
  • Y Cymro, 29 Hyd. 1959, 18 Mai 1961 a 31 Hyd. 1963;
  • Yr Eurgrawn Wesleyaidd, Dolgellau, Awst 1961.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]